Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 29 Mawrth 2017.
Ar 24 Ebrill 2013, lladdwyd dros 1,100 o weithwyr yn Rana Plaza, y ddamwain ddiwydiannol waethaf yn hanes Bangladesh. Roedd yr adeilad naw llawr wedi cael ei wacáu am fod craciau mawr wedi ymddangos yn yr adeilad, ond ni wnaed unrhyw beth. Gyrrwyd dros 3,000 o fenywod ifanc yn bennaf yn ôl i’r gwaith, neu byddent yn colli eu gwaith. Hanner awr yn ddiweddarach roeddent wedi marw neu wedi’u hanafu’n ddifrifol.