7. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr Ymchwiliad i Ddarpariaeth o ran Eiriolaeth Statudol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:29, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rhwng 2003 a 2014, ni fu llai na saith adroddiad yn mynegi pryderon am gyflwr gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru. Cyhoeddodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y trydydd Cynulliad dri adroddiad a gwnaeth nifer o argymhellion a galwadau mynych ynghylch darparu gwasanaethau eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal a grwpiau eraill o blant agored i niwed. Rhwng 2012 ac 2014 hefyd, cyhoeddodd y comisiynydd plant ar y pryd dri adroddiad gydag argymhellion ar ddarparu eiriolaeth statudol. Rwy’n credu ei bod yn sobreiddiol inni atgoffa ein hunain hefyd lle y dechreuodd y daith eiriolaeth rydym arni mewn gwirionedd, gan ei fod bron yn cyd-daro â genedigaeth y sefydliad hwn a chyhoeddi adroddiad Waterhouse, ‘Ar Goll mewn Gofal’, yn ôl ym mis Chwefror 2000.

Canfu’r adroddiad hwnnw, 17 mlynedd yn ôl, nad oedd dioddefwyr degawdau o gam-drin plant yn rhywiol a chorfforol ar raddfa eang mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru wedi cael eu credu na’u clywed. Argymhellodd y dylai pob plentyn sy’n derbyn gofal gael mynediad at eiriolwr annibynnol. Felly, mae’n hen bryd i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru ddatrys y mater unwaith ac am byth.

Rwy’n credu ei bod yn bwysig inni atgoffa ein hunain heddiw pam y mae gwasanaethau eiriolaeth annibynnol yn bwysig. Yn syml, mae eiriolaeth yn rhoi llais i’n plant mwyaf agored i niwed ac yn helpu i’w cadw’n ddiogel. Dywedodd Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru wrth ein pwyllgor fod eiriolaeth annibynnol yn ei hanfod yn ddarpariaeth i ddiogelu ac amddiffyn y plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Roedd hon yn neges a bwysleisiwyd gan y comisiynydd plant a ddywedodd wrthym yn glir nad yw gwasanaethau eiriolaeth yn opsiwn ychwanegol—maent yn fesurau diogelu cwbl angenrheidiol i’n plant mwyaf agored i niwed. Atgoffodd ein pwyllgor hefyd, o Waterhouse ac ymchwiliadau eraill i’r digwyddiadau a ddigwyddodd yn fwy diweddar yn Rotherham, na wrandawyd ar leisiau plant a bod plant wedi’u bwrw i’r cysgod pan oeddent yn fwyaf agored i niwed.

Mae tua 25,000 o blant a fyddai’n gymwys i gael cymorth yng Nghymru. Yn 2016, roedd 2,936 ar y gofrestr amddiffyn plant, roedd 5,554 yn blant sy’n derbyn gofal, ac eithrio’r rhai ar y gofrestr amddiffyn plant, ac roedd 15,884 wedi’u dosbarthu fel plant mewn angen. Mae’r pwyllgor yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud. Rwy’n croesawu bod y ddyletswydd statudol bresennol i ddarparu eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal a grwpiau perthnasol eraill wedi’i hailddatgan yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ddiweddar. Ond mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod hyn yn cael ei droi’n realiti ym mywydau ein plant mwyaf agored i niwed.

Mae llawer o ymchwiliad y pwyllgor yn canolbwyntio ar yr angen i roi dull cenedlaethol cyson ar waith mewn perthynas ag eiriolaeth yn unol â’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiadau a gyhoeddwyd gan y comisiynydd plant—gwaith a ddechreuodd bedair blynedd yn ôl. Er ein bod yn cydnabod bod cynnydd wedi’i wneud yn y misoedd diwethaf yn y maes hwn, mae’r pwyllgor yn awr yn awyddus i weld cynnydd brys o ran cyflwyno’r dull gweithredu cenedlaethol hwn. Gwnaeth y pwyllgor wyth argymhelliad clir, a fyddai, os cânt eu gweithredu’n briodol, yn mynd gryn dipyn o’r ffordd tuag at liniaru’r problemau a nodwyd gan yr adroddiadau lluosog dros y blynyddoedd.

Rwy’n falch o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ar y pwyllgor ac wedi ymateb yn gadarnhaol i’r rhan fwyaf o’r argymhellion a wnaed gennym. Mae’r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno dull cenedlaethol o ddarparu eiriolaeth statudol yn un sy’n cael ei groesawu’n fawr gan y pwyllgor ac ar draws y sector. Ni allaf bwysleisio digon, fodd bynnag, fod angen i hyn bontio’n ystyrlon a llwyddiannus i ddull cenedlaethol ac nid un sy’n llai na’r disgwyliadau. Mae angen trefniadau clir ar waith i sicrhau bod y dull hwn yn cael ei weithredu, ei gydlynu a’i fonitro’n barhaus.

Bydd cyflawni’r dull cenedlaethol erbyn mis Mehefin 2017 yn garreg filltir bwysig, ond cyflawni’r dull yn llawn y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw fydd mesur llwyddiant. Gwn fod gan randdeiliaid allweddol bryderon dilys ynghylch cynaliadwyedd y model, yn enwedig pan fydd y rheolwr gweithredu yn gorffen yn ei swydd ym mis Mehefin ac yn absenoldeb grŵp cynghori rhanddeiliaid.

Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru o leiaf wedi derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad i ddarparu’r manylion diweddaraf ar y symud tuag at ddull cenedlaethol ym mis Mehefin. Ond hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gymeradwyo hyn yn llawn a dod yn ôl at y pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn i drafod y cynnydd y gobeithiwn y bydd wedi cael ei wneud.

Nid yw’r pwyllgor yn bwriadu i’r adroddiad hwn orwedd ar silff. Ac rydym yn bwriadu monitro cynnydd y dull cenedlaethol yn drylwyr. Roedd yn siomedig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad yn galw am fonitro gwariant awdurdodau lleol ar wasanaethau eiriolaeth a chyllid yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth yn flynyddol. Teimlwn fod yn rhaid ariannu’r gwasanaethau hanfodol hyn ar sail angen. Bydd y cyllid hwnnw, mewn dwy flynedd, yn mynd i mewn i’r grant cynnal ardrethi i gael ei fonitro gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ac mae pryderon gwirioneddol, yn enwedig mewn hinsawdd lle y ceir y fath bwysau ar wasanaethau cymdeithasol, ynglŷn â sut y bydd y cyllid hwn yn cael ei fonitro ac yn adlewyrchu anghenion cynyddol poblogaeth plant sy’n derbyn gofal, amddiffyn plant a phlant mewn angen.

Cyn i mi gloi’r sylwadau agoriadol hyn, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i’n hymchwiliad. Rwyf am gofnodi fy niolch yn arbennig i Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan, sy’n cynnwys sefydliadau y gwn eu bod wedi ymgyrchu’n ddiflino ar y mater hwn ers blynyddoedd. Diolch hefyd i’r comisiynydd plant a’i thîm am eu dyfalbarhad a’u hymrwymiad ar y mater hwn; heb hynny, nid wyf yn credu y byddem wedi gallu gwneud y cynnydd a wnaethom hyd yn hyn.

Wrth gloi, hoffwn bwysleisio wrth yr Aelodau fod hwn yn fater na fydd yn diflannu. Mae Llywodraethau dilynol ac awdurdodau lleol hyd yn hyn wedi methu mabwysiadu model sydd wedi bodloni anghenion ein pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Rydym am weld ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i roi diwedd ar y cylch hwn o adroddiadau sy’n cael eu cyhoeddi heb lawer iawn o gynnydd yn cael ei wneud. Mae angen i hyn fod yn rhywbeth a gawn yn iawn. Mae diogelwch ein plant mwyaf agored i niwed yn dibynnu arno.