Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o siarad yn y ddadl hon am adroddiad y pwyllgor. Mae siaradwyr blaenorol wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod gennym gynllun eiriolaeth wedi’i ddatblygu’n llawn ar gyfer Cymru gyfan ac sy’n cynnwys pob awdurdod lleol oherwydd mai’r plant mwyaf agored i niwed sydd ei angen. Rydym yn gwneud cam â hwy os nad ydym yn cyflawni hyn mewn gwirionedd. Mae’n debyg, mewn gwirionedd, mai’r brif neges gan y pwyllgor yw y dylem fwrw ymlaen â’r peth. Clywn lawer am y paratoadau a wnaed, y trafodaethau a gafwyd a’r ymrwymiadau a roddwyd, ond erbyn hyn rwy’n credu bod yn rhaid ei ddarparu gan fod arnom hynny i blant Cymru. Gwn fod y Gweinidog, Carl Sargeant, wedi rhoi ei ymrwymiad personol yn y pwyllgor i weld hyn yn cael ei wireddu.
Cefais fy atgoffa o ba mor agored i niwed yw plant pan oedd gennyf ddadl fer yn ddiweddar iawn ar y cam-drin honedig yn y 1950au yn ysgolion Llandrindod ar gyfer pobl fyddar am fod ymchwil gan fy etholwr, Cedric Moon, wedi dangos bod bechgyn ifanc byddar wedi cael eu cam-drin gan lysfeistr. Ond ni ddygwyd y gamdriniaeth i sylw awdurdodau’r ysgolion nes i un o’r bechgyn, a oedd yn gallu siarad rhywfaint, gael ei gam-drin ac fe roddodd wybod i’r awdurdodau. Roedd y bechgyn eraill wedi methu cyfathrebu’r hyn oedd yn digwydd iddynt ac wrth gwrs, nid oedd unrhyw eiriolwyr. I mi dyna enghraifft berffaith o ble roedd angen eiriolwr i siarad dros y bechgyn ifanc agored i niwed hynny. Nid oeddent yn gallu siarad ac nid oedd neb i siarad ar eu rhan. Rwy’n falch, o ganlyniad i’r cyhoeddusrwydd i’r ddadl honno, fod yna ymchwiliad ar y gweill bellach i’r hyn a ddigwyddodd, ond mae’n dangos pa mor daer yw’r angen am eiriolaeth.
Rwy’n meddwl bod yna grwpiau penodol o blant sydd angen eiriolaeth. Yn ystod ein hadroddiad, tynnodd y comisiynydd plant sylw at hynny, ac mae pobl eraill wedi cyfeirio atynt heddiw. Ond rwy’n meddwl bod yna gwestiynau mawr iawn yn codi mewn perthynas â phlant sydd mewn gofal, plant sydd â phroblemau iechyd meddwl ac yn benodol hefyd rwy’n credu, plant sydd â phroblemau cyfathrebu. Rhoddodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar dystiolaeth i’r pwyllgor. Awgrymasant y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi safonau gofynnol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth sy’n ystyried anghenion penodol plant a phobl ifanc byddar: yr union blant na allant gymryd rhan mewn dadl a thrafodaeth. Gwnaethant argymhellion ynglŷn â lefel sylfaenol o ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a dealltwriaeth o’r rhwystrau sy’n wynebu plant a phobl ifanc byddar. Ymgynghorwyd â phlant byddar ar yr hyn yr oedd ei angen. Anfonasant restr o’r mathau o bethau y dywedodd pobl ifanc eu bod eu heisiau:
Mae fy eiriolwr perffaith yn mynd i fod yn neis, ac ni fydd yn ymyrryd yn y modd rwy’n cyflwyno fy ngwaith, yn gymwynasgar, yn un o fy ffrindiau gorau. ac ‘ymddiriedaeth’, ‘ifanc’, ‘i’ch gwneud yn hyderus’, ac ‘rwyf eisiau cymryd rhan’. Dywedodd llawer o’r bobl ifanc hefyd y byddent yn hoffi gallu cyfathrebu â gwasanaeth eiriolaeth y gellid ei wneud drwy neges destun, e-bost neu gyfryngau cymdeithasol eraill, a soniwyd hefyd am yr angen am ddehonglwr i’r rhai sy’n defnyddio iaith arwyddion.
Yn amlwg, gwnaed llawer o gynnydd ac rwy’n gobeithio ein bod bron yno. Rwy’n meddwl bod adroddiad y pwyllgor yn rhoi ysgogiad ar gyfer y cam olaf un, gobeithio. Ond yn amlwg, ceir rhai pryderon o hyd. Mae Grŵp Darparwyr Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc Cymru Gyfan, sydd wedi rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ac sydd wedi cydweithio’n agos â ni, wedi pwysleisio pwysigrwydd monitro allanol. Maent yn teimlo y dylid ailsefydlu grŵp cynghori rhanddeiliaid, fel y gellir gweithio gyda phobl sy’n gweithio yn y maes mewn gwirionedd. Wrth i hyn gael ei gyflwyno, rwy’n teimlo’n gryf iawn y dylai fod ymgysylltiad â phobl ifanc fel rhan o’r cynllun gweithredu, gan ein bod wedi ymrwymo i hawliau plant yn y Cynulliad hwn, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y ddadl ac yn cael eu cynnwys yn y drafodaeth ynglŷn â sut y caiff hyn ei weithredu mewn gwirionedd. Felly, rwy’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn rhoi’r ysgogiad terfynol i wneud i hyn ddigwydd.