8. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb ar Ganser yr Ofari

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:36, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Hoffwn ddechrau drwy ymuno â’r siaradwyr eraill i ddiolch i’r deisebwyr a dynnodd sylw at y mater pwysig hwn, a hefyd i gofnodi fy niolch i’r Pwyllgor Deisebau am ei ystyriaeth feddylgar o’r mater a’i adroddiad a’i argymhellion, a hefyd i’r holl siaradwyr yn y ddadl am eu cyfraniadau ystyriol a phwerus.

Gall canser yr ofari effeithio ar fenywod o unrhyw oedran, ond mae’n fwy cyffredin ymhlith menywod sydd wedi bod drwy’r menopos ac fel y clywsom yn y ddadl, gall symptomau canser yr ofari fod yn debyg i symptomau cyflyrau eraill ac felly gall fod yn anodd gwneud diagnosis ohono. Mae hwn yn fater pwysig i fenywod yng Nghymru ac rwy’n gobeithio y bydd ystyriaeth y pwyllgor o’r mater hwn a’n dadl heddiw yn helpu i godi proffil canser yr ofari.

Sgrinio’r boblogaeth yw’r broses o nodi pobl iach a allai wynebu mwy o risg o glefyd neu gyflwr, neu nodi presenoldeb clefyd neu gyflwr nad oes diagnosis wedi’i wneud ohono hyd yma mewn unigolyn. Yna gallwn ymateb drwy ddarparu gwybodaeth, profion neu driniaeth bellach. Mae gan sgrinio botensial felly i nodi cyflyrau ar gam cynnar pan ellir eu trin yn haws. Gall sgrinio achub bywydau, gwella ansawdd eich bywyd a lleihau’r angen am ymyriadau a thriniaethau costus ar gam mwy datblygedig.

Fodd bynnag, mae’n bwysig deall beth y gall sgrinio ei wneud a beth nad yw’n gallu ei wneud. Gall sgrinio achub bywydau drwy nodi risgiau’n gynnar, ond gall hefyd achosi niwed drwy nodi rhai ffactorau na fydd byth yn datblygu i fod yn gyflwr difrifol. Nid yw sgrinio yn gwarantu amddiffyniad chwaith. Efallai y bydd rhai pobl yn cael canlyniad risg isel o sgrinio, ond efallai na fydd hynny’n eu hatal rhag datblygu’r cyflwr yn ddiweddarach.

Ni ddylid cynnig sgrinio poblogaeth ac eithrio lle y ceir tystiolaeth gadarn o ansawdd da y bydd yn gwneud mwy o les na niwed a’i fod yn gosteffeithiol o fewn cyllideb gyffredinol y GIG. Lle y ceir tystiolaeth o’r fath, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn rhaglenni sgrinio.

Hoffwn eich sicrhau bod pob un o’n rhaglenni sgrinio ar sail y boblogaeth cyn i symptomau ymddangos, sy’n amrywio o sgrinio cyn-geni i fenywod beichiog i sgrinio dynion hŷn am ymlediadau, yn cael eu datblygu a’u darparu gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael ac maent yn destun adolygu rheolaidd.

Mae Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn darparu cyngor annibynnol, arbenigol ar sgrinio’n seiliedig ar boblogaeth i holl Weinidogion y DU. Mae’r pwyllgor yn sicrhau trylwyredd academaidd ac awdurdod mewn maes hynod o gymhleth ac mae’n arwain y byd yn ei faes. Mae’r rhaglenni sgrinio yn y DU ymhlith y mwyaf uchel eu parch yn y byd. Yn ddiweddar, bu Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn ystyried y dystiolaeth o dreial mawr yn y DU i sgrinio canser yr ofari. Nid yw’r dystiolaeth hyd yma yn derfynol ac nid yw’r pwyllgor arbenigol wedi argymell sgrinio ar hyn o bryd ar gyfer canser yr ofari.

Mae treial cydweithredol y DU ar gyfer sgrinio canser yr ofari ac elusennau canser blaenllaw yn cytuno nad yw’r dystiolaeth yn dangos y gall sgrinio leihau nifer y marwolaethau o ganser yr ofari. Fel y clywsom yn ystod y ddadl, gwelodd yr astudiaeth fod nifer o fenywod wedi cael llawdriniaeth ddiangen am bob canser yr ofari a ganfuwyd drwy sgrinio, a chafwyd cymhlethdodau mawr yn achos oddeutu 3 y cant o’r menywod a gafodd lawdriniaeth ddiangen. Bydd angen ystyried y rhain a mathau eraill o niwed, fel lefelau uwch o orbryder, yn ofalus pe bai tystiolaeth bellach yn cefnogi sgrinio.

Mae treial cydweithredol y DU ar gyfer sgrinio canser yr ofari yn mynd rhagddo a deallaf y bydd rhagor o dystiolaeth ar gael yn 2019. Bydd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU yn adolygu ei argymhelliad pan ddaw’r dystiolaeth hon i law. Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r posibilrwydd o gael rhaglen sgrinio poblogaeth genedlaethol ar gyfer canser yr ofari dan arolwg ac rydym yn parhau i gael cyngor gan bwyllgor ymgynghorol arbenigol y DU ar y mater hwn.

Rydym yn cydnabod bod angen i ni wneud mwy i ganfod canserau’n gynt. Rhaid i’n GIG ymateb yn briodol i fenywod sydd â symptomau sydd angen eu harchwilio. Mae’r GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau atgyfeirio newydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer achosion lle y ceir amheuaeth o ganser, sydd wedi gostwng y trothwy amheuaeth ac wedi’u hanelu’n benodol at annog mwy o atgyfeiriadau. Mae ein contract meddygon teulu ar hyn o bryd yn mynnu bod pob meddygfa’n adolygu achosion o ganser yr ofari i nodi cyfleoedd i wella’r gofal a roddir i fenywod. A bellach, ceir arweinydd meddygon teulu ym mhob bwrdd iechyd i helpu gofal sylfaenol i wella’r modd y maent yn nodi, atgyfeirio a chefnogi pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r GIG ledled Cymru i wella lefelau canfod canser yr ofari yn gynnar a gwella mynediad cyflym at y driniaeth ddiweddaraf sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae’n bwysig fod pobl yn gallu adnabod symptomau ac yn teimlo’n hyderus i gysylltu â’u meddyg teulu. Nid her o ran canser yr ofari yn unig yw hon, ond o ran sawl math o ganser gyda symptomau amhenodol. Cynhaliwyd ymgyrch ymwybyddiaeth o ganser yr ofari yn ddiweddar. Cafodd yr ymgyrch ei lansio ym mis Mawrth 2016 ac roedd yn cynnwys dosbarthu taflenni a phosteri i bob meddygfa yng Nghymru. Mae’r gweithgaredd hwn, ynghyd â gwaith gwerthfawr elusennau canser ac ymgyrchwyr, wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ar draws Cymru. Mae ein cynllun cyflawni ar gyfer canser, a gafodd ei lansio ym mis Tachwedd 2016, yn cynnwys ymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o symptomau canser. Mae’n hanfodol ein bod yn cael gwybod gan yr arbenigwyr pa ganserau i’w targedu a sut. Yn syml, fel lleygwr, nid wyf am achub y blaen ar hynny, a dyna’r rhesymeg sy’n sail i’n hymagwedd at argymhelliad 3. Bydd y grŵp gweithredu ar gyfer canser yn arwain ar y gwaith o ddatblygu gweithgaredd codi ymwybyddiaeth yn y dyfodol. Byddant yn ystyried ymgyrchoedd ymwybyddiaeth safle-benodol, ond byddant hefyd yn ystyried manteision ymgyrch fwy cyffredinol i godi ymwybyddiaeth. Mae cynigion ar gyfer ymgyrch ymwybyddiaeth i’w chyflwyno fesul cam tan 2020 i ddod yn ddiweddarach eleni.

Hoffwn gloi drwy ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno’r ddadl ar lawr y Senedd heddiw ac rwy’n siŵr y bydd gwaith craffu’r pwyllgor ar y mater hwn a’r ddadl hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofari ar draws Cymru. Diolch yn fawr.