– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 4 Ebrill 2017.
Mae ein clerc a’n prif weithredwr, Claire Clancy, yn ymddeol y mis yma, a dyma’i Chyfarfod Llawn olaf ond un. Mae wedi gwasanaethu yn y swydd am dros 10 mlynedd, a hwn fydd rhif 643 iddi o gyfarfodydd ‘Plenary’. I gydnabod gwerth y cyfraniad yma, rwyf am ofyn am sylwadau gan arweinwyr y pleidiau. Carwyn Jones.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddweud mai prin yw manteision heneiddio, ond un o bleserau gwasanaethu fel Aelod gwreiddiol o’r Cynulliad yw cael gweld y sefydliad yn tyfu a datblygu dros bron i 20 mlynedd. Ac, ar ôl gwasanaethu am 10 mlynedd, mae Claire wedi darparu arweinyddiaeth am fwy na hanner bodolaeth y Cynulliad Cenedlaethol, ond bydd yn gadael, wrth gwrs, argraff sylweddol ar ei hôl.
Daeth y swydd a gymerwyd gan Claire ym mis Chwefror 2007 o ganlyniad uniongyrchol iawn i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Elfen allweddol o'r Ddeddf honno, wrth gwrs, oedd gwahanu’r Cynulliad Cenedlaethol a'r Llywodraeth—y ddeddfwrfa, wrth gwrs, oddi wrth y Weithrediaeth. Fe’n symudodd ni ymlaen; roedd yn gam pwysig, mewn gwirionedd, yn ein haeddfedrwydd fel democratiaeth. Ac, wrth gwrs, roedd wedi’i seilio ar lawer iawn o waith i sefydlu'r Comisiwn a’i baratoi i wneud y gwaith a oedd yn ofynnol. A dyna fydd etifeddiaeth barhaol Claire i'r Cynulliad. Goruchwyliodd y broses o weddnewid y Cynulliad o gorff ad hoc braidd i un o golofnau democratiaeth Cymru, sy’n gallu gweithredu fel corff craffu proffesiynol, trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Rydym ni’n gwybod bod diogelwch, yn anffodus, yn faes lle’r ydym ni wedi gweld newid mawr yn ystod blynyddoedd stiwardiaeth Claire. Gan weithio gyda'r heddlu, a'i thîm ehangach, mae hi, wrth gwrs, wedi helpu i ymateb i'r amgylchedd diogelwch sy'n newid, gan lwyddo i gadw'r Cynulliad yn agored i'r cyhoedd, yn llythrennol yn ogystal ag yn foesol.
Gwn, Claire, bod eich stiwardiaeth a'ch swyddogaeth yn benllanw gyrfa hir o wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Cyn dod yma, chi oedd prif weithredwr Tŷ'r Cwmnïau. Cyn hynny, wrth gwrs, gyrfa hir mewn sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru, yn y Comisiwn Gwasanaethau Gweithwyr, ac mewn mannau eraill. A gwn, yn y 1990au, bod Claire wedi treulio dwy flynedd ar St Helena, yn cynorthwyo ei diweddar ŵr, Mike, y ceir atgofion da a melys ohono ymhlith ei gyn-gydweithwyr yng ngwasanaeth sifil Cymru.
Rydym ni’n gwybod, fel Aelodau'r Cynulliad hwn, ein bod ni’n disgwyl i'r Comisiwn roi'r cymorth a'r seilwaith sydd eu hangen arnom i wneud y swyddi y mae ein pleidleiswyr yn ein hanfon ni yma i’w gwneud. Felly, a gaf i ddiolch i Claire am bopeth y mae hi wedi ei wneud, ac, wrth gwrs, dymuno pob llwyddiant a hapusrwydd iddi yn y dyfodol? [Cymeradwyaeth.]
Ar ran Plaid Cymru, hoffwn gofnodi ein diolch i Claire Clancy am wasanaethu'r Cynulliad Cenedlaethol am 10 mlynedd. Mae hi wedi bod yn ffynhonnell gyson o gymorth ac arweiniad i’r holl Aelodau, ar draws y Siambr. Ac, ochr yn ochr â'r Swyddogion Llywyddu cyfredol a blaenorol, mae hi wedi datblygu a gwella’r Cynulliad ers 2007—cyfnod o newid sylweddol yn y ffordd y caiff deddfau eu gwneud yng Nghymru.
Rydym ni wedi gweld twf i gyfrifoldebau'r Cynulliad hwn. Bu twf hefyd i’r ganran sy'n pleidleisio, ymgysylltiad cyhoeddus a chefnogaeth y cyhoedd, ac mae Claire Clancy wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr holl ddatblygiadau hynny. Rwy'n ffyddiog y bydd democratiaeth Cymru yn datblygu llawer ymhellach yn y dyfodol, ac y bydd hynny'n bosibl oherwydd y cyfraniad y mae Claire wedi ei wneud hyd yn hyn.
Felly, diolch yn fawr iawn, Claire, a dymuniadau da iawn i chi ar gyfer y dyfodol.
Rwy’n cofio’n iawn y tro cyntaf i mi gerdded i mewn i’r Siambr hon, yn 2007, ac roedd Claire ar yr ochr arall yn y fan yna, i gymryd llw’r swydd ar gyfer Aelodau oedd newydd eu hethol. Nid oeddwn yn sylweddoli bod y mosaig sydd o’n blaenau yma—Calon Cymru—yno; hoeliais fy llygaid ar glerc y Cynulliad a cherdded yn syth ar draws y mosaig, gan godi braw enfawr ar y clerc. Roeddwn i tua 15.5 stôn bryd hynny, felly ni wnaeth gracio; pe bawn i’n cerdded ar ei draws nawr, gallai achosi problem.
Ond, o’r diwrnod hwnnw ymlaen, rwyf wedi dod, yn ystod y 10 mlynedd, fel y mae fy ngrŵp wedi dod, i werthfawrogi'r cyngor, y cymorth, a pharhad y cymorth a'r cyngor yr ydych chi wedi eu rhoi i ni fel grŵp, ac i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd. Ac mae'r Cynulliad, yn ystod y 10 mlynedd hynny, wedi tyfu mewn statws i fod yn Senedd, ac yn Senedd â chyfrifoldebau deddfwriaethol, a chodi trethi erbyn hyn. Ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd y cyfraniad yr ydych chi wedi ei wneud fel clerc y Cynulliad a'r prif gynghorydd i'r Llywydd.
Diolchaf i chi am yr holl gymorth yr ydych chi wedi ei roi i ni. Dymunaf yn dda i chi, a'ch teulu, yn eich ymddeoliad. Rwy’n gobeithio nad dyma’r tro diwethaf y byddwn yn eich gweld ac y byddwch yn dychwelyd, ar sawl achlysur, i weld sut yr ydym ni’n datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Ond, mae wedi bod yn fraint ac mae wedi bod yn bleser, ac, ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, rwy’n diolch o galon i chi am yr holl amser, ymdrech a chymorth yr ydych chi wedi eu rhoi i ni i gyd. Diolch. [Cymeradwyaeth.]
Wel, Llywydd, mae bob amser yn bleser gwneud araith nad yw’n ddadleuol sy'n mynd i ennyn cytundeb o gwmpas y Cynulliad, ac i gytuno gyda phopeth sydd wedi ei ddweud gan yr holl siaradwyr blaenorol hyd yn hyn heddiw. Rwy’n siarad o safbwynt hollol wahanol, fel rhywun sy'n hollol newydd i'r sefydliad hwn, ac, yn wir, mae holl aelodau fy ngrŵp yn yr un sefyllfa. Ac rydym ni wedi bod yn fuddiolwyr enfawr o effeithlonrwydd tawel adran y clerc, yr ydych chi wedi llywyddu drosti gyda’r fath ras, swyn, deallusrwydd a gallu. Ac, heb y clercod mewn unrhyw sefydliad seneddol, wrth gwrs, ni fyddai byth yn gallu gweithredu’n iawn. Yn wir, mae llawer y tu allan y mae’n debyg y byddent yn dweud mai dyna'r unig ran sy'n gweithredu’n iawn. Ac rwyf wedi gweld hyn, wrth gwrs, yn San Steffan hefyd, lle rwy’n meddwl bod y staff parhaol yn gerydd sefydlog i bob un o’r aelodau etholedig, yn y ffordd y maen nhw’n ymddwyn ac yn cyflawni eu swyddogaethau.
Ac felly, hoffwn innau hefyd ddiolch i chi'n bersonol am yr holl gymorth yr ydych chi wedi ei roi i mi yn ystod y flwyddyn, nawr, fy mod i wedi bod yn aelod o'r lle hwn, ac rwyf wedi dod i werthfawrogi pa mor bwysig yr ydych chi wedi bod yn natblygiad y Cynulliad, a bydd eich etifeddiaeth, wrth gwrs, yn eich goroesi. Rydym ni’n gobeithio y byddwch chi’n cael ymddeoliad hir, hapus ac egnïol, ac y byddwch, fel y mae Andrew R.T. newydd ei ddweud, yn dychwelyd i ymweld â ni mor aml ag y gallwch. Diolch.
A’r cyn-Lywydd, Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae Claire Clancy wedi llenwi swydd prif weithredwr a chlerc y Cynulliad hwn mewn modd urddasol a chynnes. Mae’n briodol iawn i ni roi teyrnged haeddiannol iddi heddiw, gan ei bod hi wedi mwy na chyflawni ei hymrwymiadau adeg ei phenodi, ac mae hynny’n teimlo bron fel ddoe i fi, er ei fod o 10 mlynedd yn ôl. Drwy ei gwasanaeth i’r Cynulliad, mae hi wedi cynnig gwasanaeth clodwiw i bobl Cymru ac i ddemocratiaeth. Nid gwaith hawdd yw bod yn brif swyddog corff democrataidd, gan weithio gydag Aelodau etholedig gwahanol ac amrywiol. Mae cadw’r ddysgl yn wastad yn gamp anodd mewn sefydliad sy’n bod er mwyn dadlau a chynrychioli gwahanol farnau a galw’r Weithrediaeth i gyfrif.
Adnodd pennaf unrhyw sefydliad yw cymeriad y bobl sy’n gweithio ynddo. Camp fwyaf eich cyfnod chi, Claire, oedd gallu canolbwyntio ar ddatblygu doniau pawb sy’n gweithio yma, gan ddangos yr un parch tuag at bob un, beth bynnag ei swydd. Ac mae mwy nag un ffordd o gynnig a dangos arweiniad. Yn fy marn i, mi fu dull Claire o arwain yn esiampl wych. Drwy’r holl newidiadau a welsom ni yng nghyfansoddiad Cymru a’r Cynulliad hwn ers 2007, bu Claire yn cynnig arweiniad cadarn, cytbwys, cywir a chyfeillgar i bobl. Dymunaf iddi ymddeoliad dedwydd o’r swydd hon a gyflawnodd gyda’r fath raslonrwydd. Ond gobeithiaf hefyd y bydd hi’n gallu para i allu cyfrannu i fywyd cyhoeddus Cymru a’r Deyrnas Unedig mewn rhyw ffordd arall.
Gair o ddiolch i gloi wrthyf i hefyd, i ddweud ei bod hi wedi bod yn bleser anghyffredin i mi, dros y 10 mis diwethaf, gydweithio â Claire fel clerc, fel prif weithredwr, ac fel Claire—y tri yn un. Yr hyn sy’n dod i feddwl yn syth wrth feddwl am Claire yw ei doethineb hirben, ei harweiniad cadarn a chyfeillgar i’w staff, a’i pharodrwydd i chwerthin. Hefyd mae ei huchelgais dros y Cynulliad yma, y Senedd yma, a’i huchelgais drosom ni i gyd, a gawsom ein hethol i wasanaethu pobl Cymru yn y lle yma. Ac, yn yr holl waith a gyflawnwyd gan Claire, fe wnaeth y cyfan oll tra’n arddel y safonau uchaf posib o wasanaeth mewn swydd gyhoeddus. A dyna ei gwaddol i ni, mae’n siŵr, wrth iddi ein gadael ni—i ni fod yn ddoeth, yn uchelgeisiol, yn flaengar, ond yn gwneud hynny, mewn gair a gweithred, gyda’r safonau uchaf posib o wasanaeth cyhoeddus i’n cenedl, ac i sicrhau yn barhaus enw da y Senedd yma. Felly, dymuniadau gorau i chi, Claire, a diolch ar ein rhan ni i gyd. [Cymeradwyaeth.]