Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 4 Ebrill 2017.
Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r broses Future Fit barhaus ar ddyfodol gwasanaethau gofal iechyd brys i gleifion yn Swydd Amwythig a chanolbarth Cymru. Mae'n bwysig i’m hetholwyr bod gwasanaethau brys wedi eu lleoli yn Amwythig. Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu safbwynt cyhoeddus yn hyn o beth. A gaf i ofyn beth sy’n eich atal rhag rhoi safbwynt ar y mater hwn a gwneud sylwadau cryf i fwrdd rhaglen Future Fit y GIG ar ran trigolion y canolbarth? A wnewch chi gymryd safbwynt?