<p>Trefniadau Iechyd Trawsffiniol</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 1:47, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rydym ni’n canfod heddiw y bu cynnydd o 16 y cant i nifer y meddygon iau sy’n dewis dod i Gymru neu aros yma i hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Ar draws GIG Cymru, mae amseroedd aros yn lleihau; mae amseroedd ymateb cyfartalog i alwadau brys yn llai na phum munud erbyn hyn; disgrifiwyd Cymru gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru fel un o arweinwyr y byd ym maes adsefydlu cardiaidd; ceir gwelliant i berfformiad canser, gyda nifer y cleifion sy’n cael eu trin nawr 40 y cant yn uwch na phum mlynedd yn ôl; ac am y pedwerydd mis yn olynol, rydym ni’n cael pobl adref o'r ysbyty yn gynt. Prif Weinidog, yn Lloegr, gostyngodd cyfran y cleifion sy'n cael eu trin neu eu rhyddhau yn brydlon yn is na 78 y cant, gyda bron i hanner yr ysbytai yn datgan—