Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 4 Ebrill 2017.
Ar yr un pryd â diwallu angen dilys, gall cydweithrediad gofal iechyd trawsffiniol hefyd guddio prinder staff clinigol arbenigol yng Nghymru, a achoswyd gan fethiant y Llywodraeth i hyfforddi digon o glinigwyr. Pryd ydych chi'n mynd i adolygu nifer y sefydliadau annibynnol GIG Cymru, sy’n derbyn degau o filiynau bob blwyddyn, gyda'r bwriad o’u lleihau fel y gallwch wario mwy ar glinigwyr arbenigol i Gymru ei hun?