<p>Seilwaith Ffyrdd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:05, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae'r ymchwiliad cyhoeddus i'r M4 a'r llwybr y penderfynwyd arno gan Lywodraeth Cymru wedi hen gychwyn. Roedd cynigion cyhoeddedig gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybr du yr M4 hefyd yn cynnwys diddymu statws traffordd y darn presennol o draffordd rhwng Magwyr a Chas-bach, gyda'r posibilrwydd o greu lonydd beicio, lonydd bysiau a chyfyngiadau cyflymder. Ai dyma fwriad Llywodraeth Cymru o hyd ac a yw hyn yn cael ei ystyried gan yr ymchwiliad cyhoeddus, o gofio y gallai diddymu statws traffordd ei hun gael effaith negyddol ar amserau teithio i nifer o’m hetholwyr, y byddai llawer ohonynt yn parhau i ddibynnu ar y darn presennol o ffordd, pa un a yw'r llwybr du yn cael ei ddewis ai peidio?