Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 4 Ebrill 2017.
Gwnaf. Mae wedi cyfarfod bedair gwaith a bydd cynllun cyflawni amlinellol yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, gan roi sylw i dair blaenoriaeth: yn gyntaf swyddi a sgiliau; yn ail, gwasanaethau cyhoeddus integredig a gwell; ac, yn drydydd, llesiant cymunedol a phersonol. Mae'r cynllun yn cael ei lunio, wrth gwrs, gan adborth o'r digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus cychwynnol.