<p>Tasglu’r Cymoedd</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Gwyddom fod Afan Argoed wedi bod yn ysgogwr pwysig ar gyfer twristiaeth ar ben cwm Afan. Mae Glyncorrwg, wrth gwrs, yn gweld manteision y llynnoedd pysgota a’r llwybrau beicio hefyd, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni’n bwriadu ei ddatblygu ymhellach yn y dyfodol. Mae'n hynod bwysig hefyd nad ydym yn anghofio bod cysylltiadau trafnidiaeth yn bwysig lle bynnag y gallai’r cwm penodol fod, ac mae hynny'n golygu, pan gawn reolaeth dros y bysiau y flwyddyn nesaf, y byddwn yn gallu ystyried sut y gallwn wella gwasanaethau yng nghwm Afan ac ar y bysiau hefyd. Rydym ni’n gwybod bod trenau wedi mynd ym 1970, ond, yn sicr, mae'n gyfle i ni nawr greu system drafnidiaeth integredig ledled Cymru, nid yn unig mewn rhai rhannau o Gymru, er budd pobl sy'n byw yn y Cymoedd.