Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 4 Ebrill 2017.
Mae Steffan Lewis yn codi pwynt pwysig iawn hefyd ynglŷn â’r cysylltiadau agos hynny, ac, yn wir, gwestiynau a phwyntiau am y cysylltiadau hynny o ran Somaliland, gan dynnu sylw unwaith eto at y sefydlogrwydd a gafwyd a’r gydnabyddiaeth o bobl o Somaliland. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, cododd Julie Morgan y mater hwn gyda ni. Felly, yn sicr, byddwn yn edrych ar sut y gallwn fynegi ein cefnogaeth yn y ffordd y dymunwch chi.