5. 3. Dadl: Y Goblygiadau i Gymru yn sgîl Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:05, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn hon heddiw. Mae'n gwneud synnwyr llwyr i’r pwerau yn y meysydd datganoledig sy'n gorwedd yn Ewrop, fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, gael eu trosglwyddo yn ôl i Gymru. Nid wyf yn credu bod unrhyw achos i Lywodraeth y DU gymryd dim o'r pwerau hynny yn ôl mewn unrhyw ffordd, oherwydd rwy’n meddwl, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei gyflwyniad, bod y pwerau hyn wedi eu datganoli, bod refferendwm wedi ei ennill, ac rwy’n cytuno â’r Prif Weinidog nad oedd gan aelodaeth o'r UE ddim byd i’w wneud â’r pleidleisiau yn y refferenda datganoli. Yn ei llythyr, mae’r Prif Weinidog yn dweud y bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori'n llawn ynglŷn â pha bwerau a ddylai aros yn San Steffan a pha rai y dylid eu datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond mae'r Llywodraeth yn disgwyl mai canlyniad y broses hon fydd cynnydd sylweddol ym mhŵer pob un o’r gweinyddiaethau datganoledig i wneud penderfyniadau.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y mater hwn yn cael ei egluro cyn gynted ag y bo modd gan fod y Prif Weinidog yn amlwg yn awgrymu pa ganlyniad y gallai Cymru ei gael, ond mae awgrym hefyd ei bod yn dal rhywbeth yn ôl. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod hyn yn cael ei egluro oherwydd mae’n anodd iawn gweld, pe na byddai’r pwerau yn dod yn ôl i Gymru, ble ar y ddaear y gallent orwedd yn Llywodraeth y DU gan nad yw'n bosibl ail-greu’r Swyddfa Gymreig. Cafodd holl bwerau’r Ysgrifennydd Gwladol eu trosglwyddo i Gynulliad Cymru yn 1998 ac enillwyd datganoli a digwyddodd y trosglwyddiad. Byddai'n chwerthinllyd ychwanegu swyddogaethau Cymru at yr adrannau cyfatebol yn Lloegr ar gyfer amaethyddiaeth a physgodfeydd, er enghraifft. Felly mae'n gwneud synnwyr llwyr iddynt ddod i Gymru. Os, wrth gwrs, o ganlyniad i gyd-drafod, y daw cyfrifoldebau ychwanegol i Gymru, mae'n hanfodol bod yr arian yn dod hefyd.

Mae'n amlwg yn fwy cymhleth mewn maes nad yw wedi'i ddatganoli, fel ymchwil wyddonol, er enghraifft, maes yr oeddwn yn awyddus i gyfeirio ato, lle mae llawer o wariant datganoledig gan Lywodraeth Cymru, ond cynghorau ymchwil y DU gyfan sy’n gyfrifol amdano. Yn amlwg, mae hyn yr un fath yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Wrth gwrs, mae'r DU yn fuddiolwr net. Mae'n gwbl allweddol nad yw Cymru’n colli dim o'r arian hwn. Dywedaf eto, fel y mae eraill wedi’i ddweud heddiw, cawsom addewid na fyddem yn colli yr un geiniog drwy adael yr UE, ac rydym yn disgwyl gweld yr addewid hwnnw’n cael ei gadw. Mae unigolion allweddol yn Llywodraeth y DU sy’n trafod hyn a ymgyrchodd yn gryf i adael yr UE a nhw a ddywedodd yr holl bethau hyn, ac mae’n rhaid inni eu dwyn i gyfrif i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd. Wrth gwrs, mae unigolion allweddol yma yn y Cynulliad hwn a wnaeth hefyd ymgyrchu dros inni adael yr UE ac rwy'n meddwl bod ganddynt gyfrifoldeb helaeth am hyn ac rydym yn disgwyl iddynt—y bobl hynny a ymgyrchodd mor gryf—wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd mewn gwirionedd. Rwy'n meddwl bod hyn yn gwbl hanfodol.

Yn fy etholaeth i, mae ariannu ymchwil yn fater allweddol, felly roeddwn i eisiau sôn am hynny, ond roeddwn hefyd eisiau sôn, cyn imi orffen, am wir bwysigrwydd hawliau dynol a’r hawliau yr ydym wedi’u hennill o Ewrop ar ôl brwydro’n galed. Rwy’n gwybod bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i sicrhau bod yr un deddfau mewn grym, gan gynnwys deddfau cydraddoldeb, pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb y Senedd wedi argymell bod y Bil diddymu mawr yn gyfle i wireddu addewid y Llywodraeth i roi'r un amddiffyniadau ar gydraddoldeb, neu rai gwell, ar ôl Brexit, ac maent yn argymell y dylid rhoi cymal yn y Bil diddymu mawr i ddweud na ddylai fod unrhyw droi’n ôl ar gydraddoldeb. Dywedodd Maria Miller, sef cadeirydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb:

Os yw'r Llywodraeth eisiau cynnal y lefel bresennol o ddiogelu cydraddoldeb i grwpiau agored i niwed, gan gynnwys menywod beichiog a theithwyr anabl— bu adroddiad newyddion am faterion yno heddiw—

Mae’n rhaid iddi fynd ati’n weithredol i ymgorffori cydraddoldeb yng nghyfraith y DU.

Ceir dwy flaenoriaeth bendant y dylai'r Llywodraeth ganolbwyntio arnynt: yn gyntaf, cynnwys cymal ar gydraddoldeb yn y Bil Diddymu Mawr i ddweud na fydd dim troi’n ôl ar y lefelau presennol o ddiogelu cydraddoldeb, ac yn ail, diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010 i rymuso’r Senedd a'r Llysoedd i ddatgan pa un a yw deddfau newydd yn gydnaws ag egwyddorion cydraddoldeb.

Rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cadw’r holl hawliau hynny y brwydrwyd yn galed amdanynt, ein bod yn cadw’r holl hawliau cydraddoldeb sydd gennym, eu bod wedi’u hymgorffori yn y gyfraith, ac rwy’n credu bod yn rhaid inni wneud yn gwbl siŵr bod hynny'n digwydd. Felly, fel y dywedais yn gynharach, rwy’n meddwl bod baich trwm ar rai o'n Haelodau Cynulliad i wneud yn siŵr nad yw Cymru yn dod allan o hyn yn ddim gwaeth. Rwy'n annog pawb yma yn y Siambr i ddefnyddio eu holl ddylanwad i sicrhau ein bod yn llwyddo i oroesi.