Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 4 Ebrill 2017.
Gadewch inni fod yn glir am un peth, nid oes llawer i’w ddathlu—dim byd i'w ddathlu, a dweud y gwir—am weithredoedd Llywodraeth y DU yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Unig rinwedd cyflwyno'r hysbysiad erthygl 50 yw ei fod yn rhoi diwedd ar y cwestiwn o ba un a ydym yn cychwyn ar broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ai peidio. Yr hyn y mae gennym gyfle i’w wneud nawr yw ymladd am y math o Brexit yr ydym ei eisiau er lles Cymru, ac, yn wahanol i gof braidd yn rhannol Mark Isherwood o'r papur rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru, rwy’n meddwl bod hwnnw’n gosod cyfeiriad teithio clir iawn ar gyfer y math o Brexit yr hoffem ei gael i Gymru.
Ond mae angen inni hefyd, ar y cyd â hynny, fod yn ymdrin â'r math o Gymru yr hoffem fod ar ôl Brexit. I’r rheini a ymgyrchodd i adael, gadael yr Undeb Ewropeaidd oedd y cam cyntaf, nid y gair olaf. Ac mae ganddynt weledigaeth wahanol iawn o Gymru ac o’r DU i’r rhan fwyaf ohonom yn y Siambr hon. Rydym wedi clywed Philip Hammond yn sôn am drefn economaidd newydd, a Theresa May yn dadlau dros newid sylfaenol yn sgil y penderfyniad. Nid yw’r mwyafrif yn y Siambr hon eisiau gweld hynny, ac er bod y dasg o drin Brexit yn enfawr, mae angen i bob un ohonom gymryd rhan yn y frwydr fwy honno yn erbyn y gwerthoedd hynny yn ogystal â’r fersiwn honno o Brexit a dadlau dros y math o Gymru yr hoffem fod y tu hwnt i hynny.
I droi at fater gwelliant Plaid Cymru ar y Bil parhad, yn y bôn, mae hwn yn gwestiwn o bwerau ac yn gwestiwn o gyllid. Mewn ffordd, mae'r cynnig ar gyfer Bil parhad yn ddewis amgen yn hytrach na rhoi ein ffydd yn Llywodraeth y DU i ddiogelu ein buddiannau yn y Bil diddymu Ewropeaidd. Ei effaith fyddai rhoi’r corff o gyfraith yr UE sy’n ymwneud â meysydd sydd wedi'u datganoli i mewn i gyfraith Cymru, a rhoi'r hawl i Weinidogion Cymru newid hynny mewn termau technegol a nodi hawl y Siambr hon fel corff o atebolrwydd a hefyd nodi ei chymhwysedd deddfwriaethol. Mewn ffordd, byddai'n fersiwn a wnaethpwyd yng Nghymru o’r Bil diddymu, wedi’i gynllunio i ddiogelu setliad datganoli Cymru. Mae'n ymddangos i mi, am resymau y mae siaradwyr eraill eisoes wedi’u rhoi, ei bod yn debygol iawn y bydd angen diogelu’r setliad hwnnw.
Mae'r Papur Gwyn gwreiddiol a’r papur a welsom yr wythnos diwethaf yn disgrifio pwerau’n dod i Gymru 'pan fo hynny'n briodol'. Yr hyn nad yw yr un o'r ddwy ddogfen hynny’n ei ddweud yw y bydd pwerau’n dod i Gymru yn unol â’r setliad datganoli presennol. Nawr, gallech ddadlau y gellid gweld Bil parhad sy’n ymwneud â'r meysydd datganoledig fel cam cyntaf yn hytrach nag fel rhwyd ddiogelwch, ac mae'n debyg mai dyna'r achos mewn rhai ffyrdd, oni bai eich bod yn myfyrio ar y ffaith, yn y Siambr hon, nad yw’n ymwneud â’r pwerau sydd gennym yn unig, ond yr arian sydd gennym, a bod hwnnw, a dweud y gwir, yn gwestiwn mwy o lawer.
Rydym yn canolbwyntio ar gael ein pwerau o statud ac mae hynny'n iawn, ond rydym yn dal i gael ein cyllid, yn y bôn, ar sail ysgwyd llaw. Rydym yn gwybod bod Barnett wedi torri; rydym yn gwybod hynny ers amser maith, ac er bod y fframwaith cyllidol yn datblygu materion yn ymwneud ag adlewyrchu angen ac annibyniaeth dyfarnu, nid yw hynny'n ddigon. Mae’n amlwg mai’r hyn y mae Brexit wedi ei wneud yw dangos yn glir mai nawr yw'r amser i roi ein cyllid ar sail statudol, a hynny o ran y cyllid sylfaenol—yr hyn yr ydym yn ei gael drwy Barnett—ond hefyd o ran bargen deg ar gyfer cyllid Ewropeaidd, y cyllid Ewropeaidd yr ydym yn ei golli.
Rwy'n credu bod angen statud cyllid arnom—rhyw fath o gyfansoddiad bach, os mynnwch—sy'n nodi’r ymrwymiad i ariannu, yr egwyddorion y cawn ein hariannu arnynt, sef ailddosbarthu ac adlewyrchu angen, a’r mecanwaith barnwrol i ddatrys anghydfodau rhwng gwahanol rannau o'r DU. Mae'r rhan fwyaf o wladwriaethau modern yn gweld hynny’n eithaf naturiol. Mae Llywodraeth y DU yn ei weld yn rhywbeth sy’n anodd iddi, ond rwy’n meddwl, ar ôl Brexit, mai’ r un peth y mae pobl yn ei ddeall yw pwysigrwydd cyllid ar gyfer dyfodol Cymru, ac rwy’n meddwl—