5. 3. Dadl: Y Goblygiadau i Gymru yn sgîl Gadael yr Undeb Ewropeaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 4 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:28, 4 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n meddwl mai’r pwynt yw bod y pwerau eisoes yma nawr a’u bod yn cael eu cyfuno ar hyn o bryd at lefel yr Undeb Ewropeaidd, a, phan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd y pwerau’n aros yma. Nid dychwelyd pwerau yw hyn; mae gennym gymhwysedd yn y meysydd hyn nawr. Nid yw'n fater o’u trosglwyddo i Lundain neu i Frwsel neu i Gaerdydd, neu i ble bynnag arall; maen nhw yma nawr, dyna'r pwynt sylfaenol.