Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 4 Ebrill 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 2 Chwefror yn rhoi gwybod iddynt fy mod wedi derbyn adroddiad yn nodi map ar gyfer llwyddiant, cadernid a chynaliadwyedd treftadaeth Cymru. Fe wnes i gadarnhau fy mod wedi ystyried yr argymhellion yn fanwl ac y byddwn yn ymateb i bob un maes o law. Rwyf bellach wedi ysgrifennu at Justin Albert, cadeirydd y grŵp llywio, i amlinellu fy ymateb i'r naw argymhelliad a wnaed gan y grŵp, ac roeddwn i eisiau rhannu fy syniadau â chi heddiw.
Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i gadeirydd y grŵp, ac i bob un o'r sefydliadau, undebau llafur, ac i’m swyddogion, am weithio gyda'i gilydd mewn modd mor adeiladol i gynhyrchu adroddiad mor gyson ac ystyrlon. Rwyf wedi fy nghalonogi i weld bod y gyfres o argymhellion wedi ei chynhyrchu gyda chytundeb a chonsensws yr holl sefydliadau a fu’n rhan o’r gwaith, ac rwy'n llawn cyffro am y cyfleoedd y byddant yn eu creu er budd y sector yn ei gyfanrwydd pan gânt eu cyflawni.
Mae'r naw argymhelliad yn perthyn i ddwy thema eang, sy'n cwmpasu dyfodol Cadw a’r gwaith o sefydlu partneriaeth strategol a'i rhaglen waith yn y dyfodol. Mae'r argymhelliad cyntaf yn cynnig sefydliad cenedlaethol newydd i Gymru, y tu allan i’r Llywodraeth. Swyddogaeth graidd Cadw yw gwarchod ein treftadaeth genedlaethol a sicrhau ei bod ar gael ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, ac fe ddylai fod yn falch dros ben o’r hyn y mae wedi’i gyflawni. Mae Cadw yn perfformio'n eithriadol yn rhan o’r Llywodraeth, ac rwyf eisiau sicrhau bod y llwyddiant hwnnw yn parhau. Fy nod i yw caniatáu cymaint o ryddid a hyblygrwydd ag sy’n bosibl i'r sefydliad i'w alluogi i wireddu ei botensial masnachol yn llawn, yn ogystal ag adeiladu ar ei welliant nodedig i brofiad ymwelwyr a’r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ac aelodaeth.
Rwy'n arbennig o falch o'r cynnydd y mae Cadw'n ei wneud wrth ddenu cynulleidfaoedd newydd i'n treftadaeth, gan dargedu teuluoedd a phobl iau drwy ymgyrchoedd marchnata gwych a thrwy gofleidio technoleg newydd. Fodd bynnag, credaf ei bod yn amser i asesu pa un a yw'r trefniadau llywodraethu presennol yn wirioneddol helpu Cadw i gyflawni ei botensial, gan y gallai fod manteision posibl o symud y sefydliad i statws mwy hyd braich. Gallai hyn alluogi Cadw i fabwysiadu ymagwedd fwy masnachol fyth i gefnogi’r gwaith hanfodol y mae angen ei wneud er mwyn parhau i gynnal a gwarchod treftadaeth Cymru, yn ogystal â rhoi mwy o gyfle i Cadw weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.
Wedi dweud hynny, ni fyddwn i, ar hyn o bryd, yn dymuno canolbwyntio yn syml ar y ddau opsiwn a nodwyd yn yr adroddiad. Ceir modelau eraill sy'n werth eu hystyried, fel adlinio mewnol neu gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, ac, fel y cyfryw, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion lunio achos busnes i nodi ac archwilio'r amrywiaeth gyfan o opsiynau cyn penderfynu ar opsiwn a ffefrir. Mae'n hanfodol ein bod yn profi pob opsiwn yn drylwyr yn erbyn y sefyllfa bresennol ac yn sicrhau ein bod yn ystyried cadw Cadw o fewn y Llywodraeth. Bydd angen bod manteision clir ac amlwg yn gysylltiedig â chynnig unrhyw newid. Rwy’n gobeithio bod mewn sefyllfa i nodi’r opsiwn a ffefrir gan y Llywodraeth erbyn 30 Medi eleni.
Yn rhan o'r achos busnes, rwyf hefyd yn gofyn i fy swyddogion ystyried yr ail argymhelliad sy’n ymwneud â dyletswyddau statudol Cadw. Bydd y model a ffefrir ar gyfer dyfodol Cadw yn pennu sut y caiff yr argymhelliad hwn ei ddatblygu. Mae dyletswyddau statudol Cadw yn hanfodol er mwyn gwarchod ein treftadaeth genedlaethol. Ni ddylai pwysigrwydd y swyddogaethau hyn—ynghyd â rhoi cyngor ac arweiniad i berchnogion asedau hanesyddol—gael ei lastwreiddio gan unrhyw newid yn statws y sefydliad.
Gan symud ymlaen at y bartneriaeth strategol, mae’n gyffrous i glywed argymhellion ar gyfer llawer mwy o gydweithio rhwng ein prif sefydliadau treftadaeth a'r weledigaeth ar gyfer partneriaeth strategol yn ateb i ddiogelu treftadaeth Cymru pan fo arian cyhoeddus dan bwysau difrifol. Rwyf eisiau gweld y bartneriaeth hon yn cael ei sefydlu cyn gynted â phosibl.
Mae'r grŵp llywio wedi fy argyhoeddi bod yr argymhellion yn tynnu sylw at gyfle gwirioneddol i ddod â phwyslais cliriach a hunaniaeth gliriach i waith masnachol ein sefydliadau cenedlaethol, ond ei bod yn iawn i ni brofi’r cyfleoedd hyn ac arfarnu eu heffaith cyn archwilio a all uno ffurfiol fod yn effeithiol. Ni fydd tynnu swyddogaethau masnachol yn nes at ei gilydd yn tanseilio annibyniaeth neu hunaniaeth y sefydliadau unigol. Yn hytrach, bydd yn eu galluogi i adeiladu ar gryfderau pob sefydliad a rhannu arbenigedd o fewn pob un er budd y sector cyfan.
Ceir argymhellion ar ddarparu swyddogaethau masnachol ar y cyd, darparu swyddogaethau swyddfa gefn ar y cyd, twristiaeth ddiwylliannol, a datblygu safle treftadaeth y byd Blaenafon. Mae'r rhain wrth wraidd fy ngweledigaeth i. Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd newydd i’n sefydliadau treftadaeth a diwylliant fod yn uchelgeisiol ynghylch y rhan y maent yn ei chwarae yn ein bywyd cenedlaethol, gan weithio gyda'i gilydd i ffurfio gweledigaeth gymhellol o’r dyfodol hwnnw.
Mae’n rhaid i ni hefyd gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio ein sefydliadau treftadaeth a diwylliant a datblygu ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd newydd. Drwy weithio'n agosach, a marchnata a hyrwyddo ein sefydliadau treftadaeth a diwylliant yn fwy egnïol ac effeithiol, caiff cyfleoedd ehangach eu creu i agor ein holl safleoedd i deuluoedd a phobl ifanc mewn modd nad ydym erioed wedi ei wneud o'r blaen.
Rwyf hefyd yn awyddus i fynd ar drywydd yr argymhelliad i ddatblygu strategaeth sgiliau diwylliannol. Mae sgiliau, angerdd ac arbenigedd y bobl sy'n gweithio yn ein sefydliadau yn dod â nhw yn fyw lawn cymaint â’r asedau diwylliannol sydd ynddynt. Credaf fod angen i ni roi mwy o barch a chydnabyddiaeth iddynt a chynnig mwy o gyfleoedd iddynt ddatblygu eu gyrfaoedd yn y maes. Ac mae angen i ni gadw ein staff er mwyn gwarchod, diogelu, a dehongli ein hetifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwyf yn dymuno gweld y strategaeth hon ar waith erbyn mis Hydref 2018.
Rwyf hefyd eisiau crybwyll yr hyn y mae llawer ohonoch wedi’i godi yn y gorffennol, sef bod Cadw a sefydliadau cenedlaethol eraill yn frandiau tra hysbys ac uchel eu parch, ond bod Cymru Hanesyddol wedi’i roi’n deitl gweithredol ar y fenter bwysig hon. Rwy’n cytuno â'r grŵp llywio y dylid ei brofi ochr yn ochr â dewisiadau eraill cyn gwneud unrhyw newidiadau. Beth bynnag fydd y canlyniad, rwyf eisiau gweld brand cryf sy'n cynrychioli'r sector ac sy’n ei alluogi i farchnata ein hasedau diwylliannol o'r radd flaenaf yn fwy effeithiol, nid yn unig i bobl Cymru, ond i'r byd.