Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 4 Ebrill 2017.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gan waith ieuenctid o ansawdd uchel swyddogaeth hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi llawer o bobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial. Mae gweithwyr ieuenctid yn addysgwyr, pa un a yw hyn yn digwydd mewn clwb ieuenctid cymunedol, ar y strydoedd, neu i gefnogi addysg ffurfiol mewn ysgolion. Mae arferion gwaith ieuenctid yn golygu bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar ystod eang o gyfleoedd dysgu a all ehangu eu gorwelion, herio eu syniadau, datblygu eu sgiliau, a gwella eu cyfleoedd mewn bywyd.
Mae'r dystiolaeth a ddarparwyd i ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid wedi amlygu'r angen i sicrhau mwy o eglurder yn y berthynas rhwng blaenoriaethau cenedlaethol, defnyddio cyllid cysylltiedig, a gweithredu lleol i gwrdd â disgwyliadau cenedlaethol. Er mwyn rhoi mwy o eglurder, rwyf wedi ymrwymo i adolygu 'Ymestyn Hawliau', ein cyfarwyddyd a chanllaw statudol ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid. Ni ellir diystyru pwysigrwydd 'Ymestyn Hawliau' fel cyfrwng ar gyfer newid. Pan gafodd ei gyhoeddi gyntaf 17 mlynedd yn ôl, roedd yn cael ei ystyried yn bolisi blaenllaw ar gyfer gwella'r cyfleoedd a'r dewisiadau i bobl ifanc ac mae hynny’n parhau. Roedd 'Ymestyn Hawliau' yn gynhwysfawr yn yr ystyr ei fod yn croesawu pob sefydliad cenedlaethol a lleol yr oedd eu gwaith yn effeithio ar gyfleoedd a dewisiadau pobl ifanc yng Nghymru.
Mae angen i'r adolygiad o'r cyfarwyddyd a chanllaw statudol adlewyrchu tirwedd ddeddfwriaethol, polisi, a thirwedd ariannol heddiw a gosod disgwyliadau realistig ai’r hyn y gellir ei gyflawni. Llywydd, rwy’n falch o hysbysu'r Aelodau bod Margaret Jervis MBE wedi cytuno i arwain ar yr adolygiad hwn. Mae gan Margaret gyfoeth o brofiad a gwybodaeth o’i gwaith yn cefnogi pobl ifanc. Roedd hi hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu 'Ymestyn Hawliau'. Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn cyfrannu at yr 'Ymestyn Hawliau' diwygiedig ac yn gadael i ni wybod eu barn am siarter gwaith ieuenctid Cymru. Rwyf wedi gofyn i Plant yng Nghymru, felly, gasglu barn pobl ifanc o bob rhan o Gymru, gan gynnwys sicrhau bod lleisiau'r rhai sydd fwyaf anodd eu cyrraedd yn cael eu clywed. Byddant yn rhannu eu canfyddiadau gyda mi ym mis Gorffennaf. Bydd 'Ymestyn Hawliau' newydd, sy’n addas ar gyfer heddiw, yn cael ei roi allan i ymgynghoriad ffurfiol yn yr hydref. Bydd adborth o'r ymgynghoriad hwn yn hysbysu'r canllaw terfynol, a gaiff ei lansio'n ffurfiol yr haf nesaf.
Gan gydnabod yr angen am arweinyddiaeth strategol glir, rwy’n sefydlu bwrdd gwasanaethau cymorth ieuenctid cenedlaethol dan gadeiryddiaeth annibynnol. Rydym yn gwybod bod cymorth i bobl ifanc yn debygol o fod fwyaf effeithiol pan fydd yn rhan o rwydwaith ehangach. Dyna pam rwy’n dymuno i’r bwrdd hwn ganolbwyntio ar y sbectrwm o wasanaethau cymorth ieuenctid, ac nid ar waith ieuenctid yn unig. Swyddogaeth y bwrdd fydd darparu her adeiladol a chraffu ar bolisïau a chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymorth ieuenctid. Drwy ymgynghori a chydweithio â'r sector statudol a gwirfoddol, rwy’n dymuno gweld y bwrdd yn cynghori ar yr adolygiad o 'Ymestyn Hawliau' a gweithredu'r argymhellion o ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid.