Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 4 Ebrill 2017.
[Yn parhau.]—yw, os ydych chi eisiau codi’r bar o safbwynt ansawdd, yna mae’n rhaid i’r adnoddau a’r arian fod ar gael i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae’n rhaid dosbarthu’r adnoddau’n deg yn ddaearyddol a rhwng y sectorau gwahanol. Mae’r ystadegau y mae’r pwyllgor wedi’u gweld ynglŷn â’r dirywiad yn lefel y buddsoddiad, ynglŷn â dirywiad yn lefel y staffio, ac yn y blaen, yn awgrymu mai’r perig yw mai rheoli dirywiad y byddwn ni, ac nid yn tyfu y sector ‘universal, open access’ dwyieithog yma—