Part of the debate – Senedd Cymru am 5:58 pm ar 4 Ebrill 2017.
Dirprwy Lywydd, rwy’n credu bod Llyr wedi dod i galon y drafodaeth yma yng nghalon ei gwestiynau a’i gyfraniad hynod o bwysig. ‘Pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid?’ oedd y cwestiwn y gofynnoch chi, wrth gwrs, a dyna’r cwestiwn rydw i’n trio ei ateb yng nghraidd y datganiad yma: pwy sy’n gyrru gwaith ieuenctid? Mae’n bwysig nad yw gwaith ieuenctid yn cael ei yrru yn uniongyrchol o fan hyn, ei fod yn cael ei yrru gan bobl, gan ieuenctid, ar draws Cymru, a gan bobl sy’n gallu adlewyrchu ac ymateb i’r sefyllfa maen nhw’n ei gweld yn y gymuned lle y maen nhw’n byw. Achos mae arweinyddiaeth glir o fan hyn yn bwysig, wrth gwrs, o Lywodraeth Cymru—mae hynny yn bwysig, ond all hynny ddim bodoli yn ynysig ar ei phen ei hun. Mae’n rhaid i hyn fod yn gydweithio—cydweithio go iawn, nid jest cydweithio mewn areithiau—ac wedyn cydweithio gyda phobl sydd ‘actually’ yn gweld pwysigrwydd y gwaith sy’n digwydd yn eu cymunedau eu hunain. Mae hynny, i ryw raddau, yn ateb eich cwestiwn cyntaf chi hefyd—a oes yna ddigon o gig ar asgwrn y datganiad yma? Mi allai, wrth gwrs, fod wedi bod lot mwy o gig, ond mi fuasai wedi bod yn gig sy’n dod o Gaerdydd, nad oedd wedi dod drwy’r broses o siarad a thrafod a rhannu profiad a gwybodaeth, a rhannu gweledigaeth. Felly, os ydych chi wir eisiau ein gweld ni’n cydweithio â phobl, mae’n rhaid i ni wedyn gydnabod bod hynny’n mynd i gymryd mwy o amser. Mi fuasai’r peth rhwyddaf yn y byd, i mi, yn y swyddfa, wneud y penderfyniadau yma, yn ynysig, cymryd cyngor, ond gwneud y penderfyniadau fy hunan—neu rydym ni ‘actually’ yn buddsoddi ein hamser yn siarad ac yn trafod gyda phobl. A dyna pam rydw i wedi gwneud y datganiad heddiw, sefydlu’r bwrdd a chadarnhau ein bod ni’n mynd trwy’r broses o drafod yr arweinyddiaeth statudol sydd gennym ac, wedyn, sicrhau bod gyda ni ddigon o amser i’n galluogi i siarad gyda phobl a thrafod y materion hyn cyn inni ddod i benderfyniadau. Rwy’n credu dyna beth oedd y tu ôl, efallai, i adroddiad y pwyllgor hefyd—bod angen rhywfaint o arweinyddiaeth, ond nid arweinyddiaeth yn unig; mae’n rhaid profi a siarad gyda phobl wrth i ni symud ymlaen.
Rydw i’n siŵr y bydd yna strategaeth yn ei lle cyn bod y strategaeth bresennol yn dod i ben. Mi fydd yna strategaeth newydd yn ei lle cyn bod y strategaeth bresennol yn dod i ben—fe wnaf i fod yn hollol glir am hynny. Mae’r broses o greu’r strategaeth yn mynd i fod yn broses o drafod a rhannu profiadau hefyd, a rhannu gweledigaeth.
Sut mae’r bwrdd yn mynd i weithio? Nid wyf i’n mynd i ateb y cwestiwn yna’r prynhawn yma—sut mae’r bwrdd yn mynd i weithio—achos, rydw i eisiau trafod hynny gyda’r bwrdd. Nid wyf i eisiau bwrdd sydd i fod i herio’r Llywodraeth—nid wyf i’n credu y buasai unrhyw fwrdd yn disgwyl i'r Gweinidog dweud wrthyn nhw sut i weithredu a sut ddylen nhw herio’r Llywodraeth. Mae hynny’n fater iddyn nhw benderfynu. Felly, pan rydym mewn sefyllfa i benodi cadeirydd ac wedyn i benodi aelodau, rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni gael trafodaeth amboutu sut mae’r bwrdd yn gweithio, ond mi liciwn i weld y bwrdd yn bachu’r cyfle i benderfynu ei hun sut y mae eisiau gweithio. Dyna beth mae annibyniaeth yn meddwl. Nid oes annibyniaeth os yw’r Gweinidog yn dweud eich bod yn annibynnol, ond yn annibynnol pan nad yw’r Gweinidog eisiau’r peth yma i ddigwydd. Felly, mae annibyniaeth yn y fan hyn yn beth pwysig.
Rydw i’n gobeithio y bydd yna ffocws parhaol ar waith ieuenctid. Rydw i yn gweld y pwynt rydych chi’n ei wneud, ac mae’n bwynt ddigon dilys, ac nid wyf i’n gwadu hynny mewn unrhyw ffordd o gwbl. Mae’n bosibl, ambell waith, i greu cyd-destun ehangach a cholli ffocws. Rydw i’n mawr obeithio na fydd hynny’n digwydd, ond rwy’n cydnabod bod yna berygl o hynny.
Rydw i wastad yn mynd i bwysleisio pwysigrwydd ansawdd, ac rydw i’n mawr obeithio y bydd hynny’n dod o’r sector hefyd, a ddim yn rhywbeth sy’n dod o Lywodraeth. Rydych chi wedi fy nhemtio unwaith eto i roi ‘commitments’ cyllideb ac adnoddau. Rydym ni i gyd yn gwybod y sefyllfa rydym ni’n byw ynddi ar hyn o bryd, ac mae hynny’n broses anodd iawn. Mi fydd awdurdodau lleol yn cael eu hethol y mis nesaf ac rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni, fel Llywodraeth, gydweithio ag awdurdodau lleol ac eraill ar draws y wlad i sicrhau bod yna ddigon o adnoddau ar gael.