Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 5 Ebrill 2017.
Wel, fel y dywedoch, arweinydd y tŷ, nid yw hyn yn ymwneud ag anifeiliaid egsotig yn unig, ond mae bywyd gwyllt yn rhan o hyn hefyd, gan gynnwys ein bywyd gwyllt domestig sydd weithiau’n cael gofal gan bobl sy’n ymyrryd gyda’r bwriadau gorau, ond efallai nad yw’r wybodaeth orau ganddynt ynglŷn â lles. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau edrych ar hyn, ond tybed a oes unrhyw gynnydd wedi’i wneud ar reoleiddio llochesau bywyd gwyllt ac ysbytai bywyd gwyllt, a thybed a allwch roi unrhyw syniad a fyddwch yn edrych ar y cyrsiau sy’n cael eu cynnig i filfeddygon, neu ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer milfeddygon, mewn gwirionedd, i’w huwchsgilio fel eu bod yn meddu ar ystod ehangach o wybodaeth, nid yn unig am rywogaethau egsotig, ond am rywogaethau bywyd gwyllt domestig hefyd?