<p>Bwyd Iach</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 1:34, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, ac mae hyn yn newyddion da iawn, gan y gwyddom fod 40 y cant o blant Cymru yn ordew neu’n rhy drwm erbyn iddynt gyrraedd 11 oed, ac mae hwnnw’n gyflwr afiach iawn i blant fod ynddo ar oedran mor ifanc. Fe sonioch am yr £1 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru ac Innovate UK, ac y bydd ar gael i gwmnïau a sefydliadau ymchwil, i’w helpu i ddod o hyd i arloesedd o’r fath wrth gynhyrchu’r bwyd hwn. Ond a gaf fi ofyn, arweinydd y tŷ, sut y bydd arloeswyr bwyd yng Nghymru yn gwneud cais am yr arian hwnnw, a beth yw’r meini prawf y bydd angen eu bodloni er mwyn bod yn gymwys i gael yr arian hwnnw?