Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch, Llywydd. Rwy’n siŵr fod arweinydd y tŷ yn ymwybodol mai’r cur pen mwyaf i lawer o ffermwyr yng Nghymru ar hyn o bryd yw problem flinderus TB buchol. Mae hwn yn fater hanfodol bwysig yng nghyd-destun trafodaethau Brexit gan ei bod yn bosibl y gallai’r UE ddefnyddio’r sefyllfa TB yng Nghymru fel rhyw fath o gyfiawnhad dros wahardd allforio cig eidion a chigoedd eraill. Tybed, felly, a all roi unrhyw syniad inni pryd y bydd yr ystyriaeth bresennol o ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr ymgynghoriad diwygiedig ar ddileu TB yn cael ei chyhoeddi.