<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:43, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Yn wir. Fodd bynnag, tybed a allem gael unrhyw syniad faint o amser y mae’n debygol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gymryd cyn y gall gyhoeddi’r cynigion a allai fod gan y Llywodraeth. Byddai’n ddefnyddiol cael rhywfaint o syniad ymlaen llaw ynglŷn â nifer o bethau cymharol annadleuol. Er enghraifft, mae llawer o ffermwyr yn bryderus y dylai unrhyw drefn brofi a fydd yn deillio o hyn fod yn ymarferol ac ystyried ffeithiau bywyd bod yn ffermwr da byw. Byddai cynnal profion ar adegau anghyfleus, megis yn ystod y cynhaeaf neu pan fo gwartheg yn lloia, yn anodd dros ben. Hefyd, mater arall y dylid ei gofio yw bod rhaglen resymoli sir, plwyf a daliad yn mynd rhagddi ar hyn o bryd, ac mae llawer o ffermwyr yn pryderu y bydd hyn yn cymhlethu sefyllfa sydd eisoes yn gymhleth iawn, os nad yw penderfyniadau Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried hynny.