<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:45, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Efallai nad yw hyn yn gysylltiedig â’r ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond a gaf fi dynnu sylw at broblem gyda’r drefn brofi fel y mae ar hyn o bryd? Mae trefn atebolrwydd gaeth iawn ynghlwm wrth y broses o brofi gwartheg. Os nad ydych yn profi o fewn y cyfnod o 60 diwrnod, cewch ddirwy awtomatig, i bob pwrpas. Ond yn aml iawn, rydym yn gweld achosion—efallai fod arweinydd y tŷ wedi cael llythyrau ynglŷn ag achosion tebyg yn ei hetholaeth—lle y bu’n rhaid rhoi’r gorau i brawf gan fod gwartheg wedi cynhyrfu, neu droi’n ffyrnig hyd yn oed, a byddai parhau â’r profion wedi bod yn anniogel o ran iechyd a diogelwch. O dan yr amgylchiadau hynny, mae’n bosibl, neu’n debygol iawn yn wir, na ellir ailbrofi o fewn y cyfnod dynodedig a bydd y ffermwr felly’n cael cosbau awtomatig, er eu bod yn gosbau am rywbeth sydd y tu hwnt i’w reolaeth mewn gwirionedd. Felly, yr hyn rwy’n ei ofyn yw: a ellir darparu rhywfaint o hyblygrwydd yn y drefn brofi, fel na fydd ffermwyr yn cael eu cosbi neu fod y cosbau’n cael eu lliniaru os bydd digwyddiadau y tu hwnt i’w rheolaeth yn eu hatal rhag cydymffurfio?