<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:51, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch o allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ran Ysgrifennydd y Cabinet fod Cyfoeth Naturiol Cymru, ar 1 Ebrill, wedi cwblhau’r ymarfer i addasu trwydded amgylcheddol Aberddawan, ac wedi rhoi trwydded amgylcheddol newydd i Aberddawan. Mae’r drwydded newydd hon yn cynnwys terfyn is ar gyfer allyriadau nitrogen ocsid, yn unol â dyfarniad Llys Cyfiawnder yr UE. Mae’n rhaid i Aberddawan gydymffurfio yn awr â’r terfyn allyriadau nitrogen ocsid newydd. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa. Mae unrhyw newidiadau i gyflenwadau glo a threfn weithredu Aberddawan, wrth gwrs, yn faterion masnachol ar gyfer RWE.