<p>Tlodi Tanwydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:54, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

O ran ein rhaglen Cartrefi Clyd, y cynllun pwysicaf y dylech dynnu sylw eich etholwyr ar incwm isel ato yw’r cynllun Nyth, sydd wedi sicrhau arbedion amcangyfrifedig o dros £400 y cartref ar fil ynni cyfartalog. Gadewch i mi ddychwelyd at y cwestiwn ynglŷn â sut yr awn i’r afael â thlodi tanwydd. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod tlodi tanwydd ym mhob cartref wedi gostwng o 29 y cant yn 2012 i 23 y cant yn 2016—gostyngiad o 6 y cant mewn pedair blynedd yn unig—ac rydym yn denu hyd at £24 miliwn o gyllid yr UE. Nawr, tybed a fyddwch yn ein cefnogi wrth inni geisio sicrhau ein bod yn cael cyllid yn lle’r cyllid hwnnw pan fyddwn yn gadael yr UE, gan ei bod yn gwbl glir fod cyllid yr UE hefyd wedi helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru.