<p>Datblygu’r Sector Amaethyddiaeth</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:56, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, arweinydd y tŷ. Mewn ateb i gwestiwn cynharach gan Neil Hamilton, fe ddywedoch nad oes TB mewn canran fawr o’r buchesi ar hyn o bryd. Nid yw hyn yn fawr o gysur i ffermwyr y cyfarfûm â hwy’n ddiweddar yn Llanddingad, ardal yn fy etholaeth â phroblem TB. Er bod yr ystadegau’n dangos gostyngiad dros amser yn nifer y buchesi yr effeithiwyd arnynt gan y clefyd, maent yn pryderu y gellid priodoli hyn i ostyngiad yn nifer y buchesi, a’r buchesi mwy o faint o ganlyniad i hynny, sydd yn ei dro yn celu gwir raddau’r broblem TB yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried y ffordd y mae’r data’n cael ei gasglu er mwyn sicrhau ein bod yn cael darlun cywir o nifer yr anifeiliaid yr effeithir arnynt gan TB yng Nghymru, ac yna gallwn fwrw ymlaen â’r gwaith o fynd i’r afael â’r clefyd ofnadwy hwn sy’n effeithio ar fywyd gwyllt a da byw ledled Cymru?