<p>Allforio Anifeiliaid Byw</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 2:03, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’n drueni na chlywais gynnig clir neu gefnogaeth i wahardd allforio byw yn eich sylwadau, arweinydd y tŷ. Mae miloedd o anifeiliaid byw yn cael eu hallforio i’r Undeb Ewropeaidd a thu hwnt, weithiau i wledydd lle y mae safonau lles anifeiliaid yn isel iawn, os ydynt yn bodoli o gwbl. Nodaf hefyd fod eich Llywodraeth wedi dewis peidio â’i gwneud yn orfodol i ladd-dai osod systemau teledu cylch cyfyng er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â safonau lles. Sut y gallwch honni bod lles anifeiliaid yng Nghymru yn ddiogel yn nwylo Llafur os yw elw’n golygu mwy i chi na lles, gan y tybiaf mai hynny sydd wrth wraidd eich ateb?