<p>Cymorthdaliadau Ffermio’r UE</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:10, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Leanne Wood am ei chwestiwn, gan ei fod yn mynd â ni’n ôl at bwyntiau pwysig sydd wedi cael eu trafod dros y dyddiau a’r wythnosau diwethaf. Yn wir, mae’r Prif Weinidog hefyd wedi mynegi ei bryderon ein bod yn dal i fod heb gael unrhyw ymrwymiad hirdymor gan Lywodraeth y DU i sicrhau cyllid yn lle’r cyllid hanfodol sy’n dod i Gymru ar hyn o bryd o’r Undeb Ewropeaidd. A gaf fi ddweud hefyd ei bod yn braf gweld Paul Davies, ysgrifennydd yr wrthblaid dros amaethyddiaeth ar ran y Ceidwadwyr, yn ymladd i sicrhau’r fargen orau ar gyfer ffermio yn sgil Brexit? Felly, gallwn weithio gyda’n gilydd ar hyn.

Ond mewn perthynas â phwyntiau arweinydd Plaid Cymru, ac fel y mynegwyd yn gadarn yn ein Papur Gwyn, mae’n bwysig iawn ein bod nid yn unig yn ymladd am sicrwydd ynglŷn â’r cyllid a fydd yn dilyn 2020, ond ein bod hefyd yn gweithio, fel y dywedais, i sicrhau bod gennym ragolygon ar gyfer ein sector amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym yn derbyn llawer iawn o gefnogaeth yn hynny o beth, a chredaf fod undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill wedi cydnabod hynny’n glir iawn.