Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 5 Ebrill 2017.
Wel, mae eglurder ynglŷn â threfniadau ariannu yn y dyfodol yn fater allweddol sydd wedi cael ei godi yn y cyfarfodydd trafod a’r gweithdai Brexit, a ddechreuodd yn syth ar ôl canlyniad y refferendwm. O ran cydnerthedd ar gyfer y cyfnod pontio ar ôl gadael yr UE, credaf fod hyn yn hanfodol i ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, tirfeddianwyr a phawb sy’n byw yn ein cymunedau. Y cynlluniau rydym yn eu hystyried, wrth gwrs, yw’r grantiau busnes i ffermydd, Glastir Uwch, y cynllun buddsoddi mewn busnesau bwyd, datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio, Glastir – Creu Coetir, a’r gronfa datblygu cymunedau gwledig. Dyna pam, hefyd, o ran cydnerthedd a’r cyfnod pontio hwn, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo’r elfen UE sy’n weddill yn y gronfa datblygu gwledig yn llwyr. Ond rydym angen mwy na’r warant, a dyna ble rwyf yn eich herio chi yn awr, y Ceidwadwyr Cymreig ac Ysgrifennydd amaethyddiaeth yr wrthblaid, i sicrhau bod eich llais, yn ogystal â’n llais ninnau, yn cael ei glywed yn glir iawn, a bod y llais hwnnw’n cael ei glywed yn glir iawn yn Llywodraeth y DU a’n bod yn sicrhau’r ymrwymiadau hynny ar gyfer ein ffermwyr yng Nghymru.