Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 5 Ebrill 2017.
Arweiniodd ymgyrch ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Heddlu De Cymru ym mis Tachwedd at ddal 22 o feicwyr modur yn rhan o’r ymgyrch mewn mannau ledled Cymru lle y gwyddys bod hyn yn digwydd yn aml. Mae’r heddlu’n cydweithio’n agos â Cyfoeth Naturiol Cymru i dargedu pobl sy’n defnyddio beiciau sgramblo yn anghyfreithlon ar dir sy’n agored i’r cyhoedd.