11. 11. Dadl Fer: Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:30, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Diolch. Rwyf wedi rhoi munud o’r ddadl hon i Suzy Davies a munud arall i Simon Thomas. Yn 2013, creodd Llywodraeth Cymru ddinas-ranbarth Bae Abertawe i gynnwys mwy o bartneriaid yn y gwaith o wella’r economi ranbarthol. Gweithiodd cynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro gyda’i gilydd ar fwrdd dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae’r bwrdd wedi mabwysiadu strategaeth economaidd dinas-ranbarth i nodi camau gweithredu allweddol ar gyfer gwella perfformiad economaidd y dinas-ranbarth. Pan osodir unrhyw ffiniau, ceir dau gwestiwn bob amser: a ddylai fod yn fwy, neu a ddylai fod yn llai? Gan fod angen cynnwys ardaloedd cynghorau cyfan, y tri chyngor nesaf at y ffiniau rhanbarthol yw Powys, sy’n ymestyn bron at y ffin â Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n rhan o ddinas-ranbarth Caerdydd, a Cheredigion, y byddwn yn dadlau ei bod yn economaidd ac yn ddiwylliannol yn debycach i Wynedd nag ydyw i Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Llanelli, a Dyffryn Aman yn un endid economaidd i bob pwrpas: edrychwch ar symudiad y traffig yn y bore a gyda’r nos. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid iddo gynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Gaerfyrddin. Y cwestiwn yn awr yw a ddylai Sir Benfro fod yn rhan o’r ardal? Byddwn yn dadlau bod ganddi ardal ddiwydiannol yn y de, ac mae ei chysylltiad agos â Sir Gaerfyrddin yn golygu ei bod yn cydweddu’n well ag ardal bae Abertawe nag unrhyw ardal yng nghanolbarth neu ogledd Cymru yn y dyfodol. Un o’r problemau yw bod ardaloedd sy’n rhan o ardal deithio i’r gwaith Abertawe-Castell-nedd Port Talbot, megis rhan ddeheuol Powys o gwmpas Ystradgynlais, ardaloedd ar y ffin megis Porthcawl, y Pîl, Hirwaun a de Ceredigion, y tu allan i ddinas-ranbarth bae Abertawe. Mae hyn yn anochel pan gaiff unrhyw ffin ei gosod: bydd ardal ar y ffin sy’n rhyngweithio’n economaidd ac yn gymdeithasol gyda’r rhanbarth o’i chwmpas.

I droi at drafnidiaeth, credaf mai dyma un o’r allweddi mewn gwirionedd, ac er nad yw cynllun a rhaglen dinas-ranbarth Abertawe yn ymwneud â thrafnidiaeth fel y mae dinas-ranbarth Caerdydd, mae’n dal i fod yn hynod o bwysig. Ac er mai ychydig o bobl, os oes unrhyw un, sy’n dymuno teithio o Gwm Afan i fynyddoedd y Preseli, hynny yw, o un pen i’r rhanbarth i’r llall, bob dydd, bydd angen gwella’r llwybr cyfan, gan y bydd galw am gysylltiadau da rhwng, ac i mewn i’r canolfannau poblogaeth mawr yn ogystal ag i safleoedd ar gyfer hamdden, siopa a gwaith. Credaf fod hynny’n allweddol: mae angen i bobl allu cyrraedd y gwaith, mae angen iddynt allu cyrraedd y canolfannau siopa, ac mae angen iddynt gyrraedd cyfleusterau hamdden. A’r perygl yw y gallwch fod yn gymharol agos at leoliad cyflogaeth mawr yn y rhanbarth, ond os ydych yn digwydd bod heb gar, mae rhai o’r teithiau hyn bron yn amhosibl.

Ffyrdd: y flaenoriaeth—a phe bawn i wedi ysgrifennu hyn 20 mlynedd yn ôl, byddai wedi bod yr un fath—yw deuoli’r A40 ar ei hyd, a goleuadau traffig ar gylchfan Cross Hands hefyd i wella cysylltiadau rhwng Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, a gweddill y dinas-ranbarth. Mae tagfeydd eraill yn digwydd o amgylch Port Talbot ar yr M4, lle y daw ffordd yr M4 i ben, ffyrdd sy’n arwain at gylchfan Cross Hands, a Chaerfyrddin, ac mae angen ystyried gwelliant pellach, yn enwedig wrth i’r tagfeydd traffig barhau.

Yn y 1990au, aeth Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg ati i agor pum gorsaf reilffordd: Llansamlet, Llansawel, Baglan, Sgiwen, a’r Pîl. Er bod gan ddinas-ranbarth Caerdydd gysylltiadau cryf â Phort Talbot fel rhan o gynllun Swanline, bydd trenau wedi’u hamserlennu gan y gorsafoedd eraill i’r gorllewin o ranbarth Bae Abertawe, gan gynnwys Caerfyrddin, Llanelli, Llandeilo, Rhydaman, Pantyffynnon, Pen-bre a Phorth Tywyn, Hendy-gwyn ar Daf, Dinbych-y-pysgod, Doc Penfro, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Wdig, ac Abergwaun. Gweler: mae traffig a threnau yn mynd i’r gorllewin o Abertawe, ac maent hyd yn oed yn mynd i’r gorllewin o Gaerdydd. Ceir gorsafoedd eraill y gellid eu dwyn yn ôl i ddefnydd, megis Glandŵr a Sanclêr. Yr hyn sydd ei angen yw rhaglen i ddod â hen orsafoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ôl i ddefnydd a gwneud mwy o ddefnydd o’r gorsafoedd rheilffordd presennol i wneud y rheilffyrdd yn opsiwn ymarferol ar gyfer teithio, naill ai i’r gwaith neu ar gyfer hamdden. Bydd y brif linell i Lundain yn parhau i fod yn gyswllt rheilffordd pwysig sydd o fudd i economi dinas-ranbarth Abertawe yn ei gyfanrwydd, ac mae’n bwysig iawn ei bod yn cael ei thrydaneiddio cyn gynted ag y bo modd.

Gan ddychwelyd at fysiau, mae gwir angen gwasanaeth bws gwell i gysylltu’r orsaf drenau a chanol y ddinas â’r canolfannau cyflogaeth, ond hefyd i gysylltu â chanolfannau poblogaeth. Gallai gorsafoedd rheilffordd yn Llansamlet a Thre-gŵyr fod yn ganolfannau trafnidiaeth, lle y bydd bysiau’n cyfarfod â threnau ac yn lledaenu allan i’r cymunedau cyfagos. Yr enghraifft yng ngorsaf Llansamlet yw bod gwasanaeth bws rheolaidd yn dod i ben yn Frederick Place, rownd y gornel i’r orsaf. Dylai hwn ddod i ben yn yr orsaf, a fyddai wedyn yn darparu gwasanaeth bws i’r ardal gyfagos. Rwyf wedi dweud sawl gwaith, ac rwy’n mynd i’w ddweud eto, bydd angen i ni agor gorsaf Glandŵr, ac nid ar ddydd Sadwrn yn unig ar gyfer y pêl-droed, ond er mwyn symud pobl yn lle’u bod yn gorfod mynd i ganol y ddinas, am ein bod yn ceisio cadw pobl allan o ganol y ddinas. Bydd gorsaf Glandŵr yn gwneud hynny. Mae angen adeiladu ar lwyddiant y cyfleuster parcio a theithio. Mae hwn yn cadw ceir allan o’r ddinas a chanol y dref, ac yn caniatáu i ran gyntaf y daith gael ei gwneud yn y car a rhan olaf y daith ar y bws.

Gan droi at feicio a cherdded, mae llwybr arfordir Cymru a llwybr cerdded arfordir Sir Benfro yn enghreifftiau gwych o lwyddiant yn creu cyfleoedd ar gyfer cerdded hamdden. Ceir llwybrau beicio pwrpasol, ond mae angen gorffen y bylchau ynddynt, ac mae angen lleoedd storio a pharcio diogel ar gyfer beiciau, yn enwedig yng nghanol dinasoedd a threfi. Rwy’n awyddus iawn i dynnu sylw at bwysigrwydd cwblhau’r llwybrau beicio. Mae’n ddibwynt cael llwybr beicio os oes rhaid i chi fynd ar draws ffordd fawr yn rhan o’r daith. Byddai’n cael y rhan fwyaf o bobl i beidio â gwneud hynny. Mae gennych y beicwyr brwdfrydig a fydd yn ei wneud, ond ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gwneud hynny.

Yn olaf, ar wasanaethau cyhoeddus, os ydym yn credu, fel rwyf fi, fod dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy’n cwmpasu ardaloedd cynghorau Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn rhanbarth cydlynol ar lefel is-Gymru, yna y cam nesaf amlwg yw rhedeg yr holl wasanaethau cyhoeddus o fewn yr ôl troed hwn. Gellid trefnu’r holl wasanaethau o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, ni ellir gwneud hyn ar unwaith, ond fel strwythur, caiff pob gwasanaeth ei adolygu, ac yna newidir y strwythur. Wedyn, rhaid rhoi camau ar waith i drefnu gwasanaethau yn y dinas-ranbarth. A dywedaf eto, gan fy mod wedi ei ddweud ddwsin o weithiau yma bellach: mae Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn edrych yn debyg i Ianws. Ar gyfer tân, ar gyfer y consortiwm addysg, rydym yn edrych tua’r gorllewin. Fodd bynnag, ar gyfer plismona neu ar gyfer iechyd, rydym yn edrych tua’r dwyrain. Nid oes unrhyw gydlyniad iddo. Mae bron fel pe bai pawb sydd wedi dod i greu strwythur wedi penderfynu ar eu strwythur eu hunain, heb ystyried yr hyn a aeth o’r blaen.

Y cyntaf, a’r mwyaf syml, yw tân ac achub. Gellir aildrefnu’r gwasanaeth hwnnw’n hawdd yn ôl ffin y dinas-ranbarth, ni fyddai ond yn golygu trosglwyddo Powys a Cheredigion i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Yn ail, fe fydd yna is-ranbarth economaidd, a’r hyn sydd ei angen yw cynllun datblygu ar waith sy’n cyfateb i’r hen gynllun datblygu sirol i gwmpasu’r ardal gyfan. Byddai hyn yn sicrhau y gellir trefnu tai a chynlluniau datblygu economaidd dros y rhanbarth cyfan, ac nid yn unig ar sail ardal yr awdurdod lleol. Mae datblygu campws y bae, sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac a fydd bron yn sicr o effeithio mwy ar Abertawe nag ar Gastell-nedd Port Talbot, yn enghraifft o’r angen am ddull ar sail ardal. Rwyf hefyd yn cofio, yn hen ddyddiau’r cyngor dosbarth, fod Dyffryn Lliw wedi gosod marchnad Clydach gyferbyn â thai a oedd yn Abertawe. Y bobl yr effeithiwyd arnynt oedd y bobl a oedd yn byw yn Abertawe, ond roedd y bobl a gafodd y budd yn dod o Ddyffryn Lliw, ac rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn edrych arno fel rhanbarth cyfan. Gallwch edrych ar barc Trostre heb feddwl amdano fel rhan o ardal siopa Abertawe.

Y trydydd cydlyniad polisi sydd ei angen ar gyfer dinas-ranbarth cyfan Abertawe yw strategaeth drafnidiaeth—yr hyn sy’n cyfateb ym mae Abertawe i system fetro dinas-ranbarth Caerdydd. Mae angen i hon sicrhau bod yna rwydwaith rheilffyrdd a bysiau cydlynol sy’n gallu symud pobl o’r ardaloedd preswyl i’r prif safleoedd gwaith, siopa a hamdden. Hefyd, mae angen i’r rhwydwaith ffyrdd sicrhau bod symudiad rhwng canolfannau poblogaeth mawr yn digwydd ar hyd ffordd ddeuol fan lleiaf. O fewn y dinas-ranbarth, gellir rhannu’n ddau yn syml—gorllewin Morgannwg a Dyfed, sy’n cyfateb i hen siroedd Dyfed heb Geredigion a gorllewin Morgannwg. Gellid sefydlu byrddau ar y cyd rhwng Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, sef dau brif wasanaeth y cyngor sir blaenorol, a gellid gwneud yr un peth ar gyfer Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Gellid aildrefnu’r byrddau iechyd yn ôl yr ardaloedd mwy o faint hyn a wasanaethir gan y byrddau ar y cyd. Byddai hynny’n trefnu byrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn union fel yr oeddent pan oedd byrddau iechyd fel bwrdd iechyd Gorllewin Morgannwg yn bodoli ar gyfer iechyd. Hefyd, byddai’n ei gwneud yn haws i fyrddau iechyd ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro weithio gyda Gorllewin Morgannwg. Mae gennym sefyllfa, fel y mae pawb yn gwybod, sy’n golygu mai’r ysbyty mawr ar gyfer y rhan fwyaf o orllewin Cymru yw Treforys, ond nid yw’n rhan o Dreforys, felly mae gennych raglen ARCH, cydweithrediad rhanbarthol ar gyfer iechyd, a’r holl bethau eraill hyn sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd er mwyn ceisio unioni’r hyn sy’n wendid strwythurol.

Byddai gwasanaethau lleol yn parhau i gael eu rhedeg gan yr awdurdodau lleol presennol. Mae awdurdodau lleol o’r maint cywir ar gyfer darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, a bydd unrhyw un sydd wedi gweld y llyfr ar wasanaethau awdurdodau lleol, sydd tua 40 tudalen o hyd, yn sylweddoli faint o wasanaethau y mae awdurdodau lleol yn eu darparu, a’r ffordd orau o ddarparu’r rhan fwyaf ohonynt yw yn lleol. Pobl leol yn gwneud penderfyniadau lleol ar ran yr ardal lle y maent yn byw yw sylfaen democratiaeth leol. Mae’n ymwneud â chytuno ar y dinas-ranbarth fel ôl troed sylfaenol, ac yna gael gwasanaethau yn y rhanbarth wedi’u trefnu yn yr ardal fwyaf addas o fewn yr ôl troed.

I gloi, rwy’n llwyr gefnogi dinas-ranbarth arfaethedig dinas Abertawe. Rwyf hefyd yn fodlon iawn â’r cynigion i wella economi’r ardal gan y pedwar cyngor yn yr ardal. Rwy’n credu y dylid rhoi clod i bob un o’r pedwar ohonynt am gydweithio i geisio cael system ar waith a gwella’r gwerth ychwanegol gros. Y peth pwysicaf i ardal fel dinas-ranbarth Abertawe yw cynyddu gwerth yr economi a chael pobl i ennill mwy. Rwy’n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r gwaith o wella trafnidiaeth a chydlynu gwasanaethau o fewn yr ôl troed, oherwydd mae angen i ni gael trafnidiaeth yn iawn, mae angen i ni gael gwasanaethau cyhoeddus ar sylfaen safonol, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud yn dda dros ein hardal.