Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch yn fawr, Llywydd. Gadewch i mi ddechrau drwy ddiolch i Mike Hedges am ddefnyddio ei ddadl fer heddiw ar bwnc bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe. Rwy’n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar y fargen ei hun, yr hyn y mae’n ei roi i dde-orllewin Cymru, a’r potensial sydd ganddi ar gyfer dyfodol economi’r rhan honno o’n gwlad. Rydym wedi cydnabod ers tro y cyfleoedd y mae bargeinion dinesig yn eu cynnig i greu effaith barhaol. Yn wir, safbwynt Llywodraeth Cymru ers mis Tachwedd y llynedd yw bod bargen ddinesig dinas-ranbarth bae Abertawe yn barod i’w harwyddo, ac rydym yn falch iawn yn awr ein bod wedi gallu cyrraedd y pwynt hwnnw. Rydym yn croesawu’r ffaith fod bargen sy’n werth £1.3 biliwn wedi ei harwyddo’n llwyddiannus, a bydd Llywodraeth Cymru, fel prif gyllidwyr y fargen, yn darparu buddsoddiad o £125 miliwn.
Nawr, mae’r fargen yn seiliedig ar weledigaeth uchelgeisiol i baratoi’r rhanbarth ar gyfer technolegau’r dyfodol dros y 15 mlynedd nesaf. Ei nod yw hybu’r economi leol, cynhyrchu bron i 10,000 o swyddi newydd, a denu dros £600 miliwn gan y sector preifat. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio i helpu i gytuno’r fargen ddinesig, ond mae’n bwysig cofio bod y bargeinion yn cael eu harwain gan uchelgais yr awdurdodau lleol a thrwy gydweithrediad rhanbarthol ymysg rhanddeiliaid. Mae arweinwyr a phrif weithredwyr pob un o’r pedwar awdurdod wedi bod yn hanfodol bwysig yn y gwaith o ffurfio’r fargen, yn ogystal â byrddau iechyd lleol a phrifysgolion. Hoffwn gydnabod cyfraniad Syr Terry Matthews, sydd wedi chwarae rhan allweddol drwy gydol y broses, ac yn y camau olaf, roedd arweinyddiaeth Rob Stewart, arweinydd cyngor dinas Abertawe, yn allweddol wrth gwblhau’r fargen. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae cynghorau Abertawe, Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro i gyd wedi gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i gytuno ar safbwynt ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig i ddyfodol y rhanbarth er mwyn nodi’r camau a fydd yn eu caniatáu i gynhyrchu twf economaidd cynaliadwy ym mhob rhan ohono. Yn wahanol i fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, mae’r fargen hon yn dechrau drwy nodi 11 o gynigion prosiect mawr. Maent wedi’u cyflwyno o dan themâu iechyd, ynni, cyflymu’r economi a gweithgynhyrchu clyfar. Bydd angen rhagor o waith ar yr holl gynigion hynny. Bydd angen cyflwyno pob un ohonynt. Rydym yn bell o fod heb gyfleoedd i fanteisio ar syniadau carbon isel a di-garbon wrth i’r syniadau prosiect hynny gael eu datblygu ymhellach a’u dwyn gerbron cyllidwyr. Gyda’i gilydd, byddant yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf yn y seilwaith ffisegol, ynghyd â buddsoddiad sylweddol yn seilwaith digidol y rhanbarth hefyd.
Mae’r fargen yn nodi ac yn adeiladu ar gryfderau enfawr yr ardal. Ym maes ynni, mae’n manteisio ar y potensial enfawr ar gyfer ynni adnewyddadwy, ac yn canolbwyntio ar wireddu potensial Doc Penfro fel lle ar gyfer profi technoleg ynni ar y môr a’i masnacheiddio. Ym maes gweithgynhyrchu clyfar, ym mhegwn daearyddol arall ardal y fargen, bydd canolfan wyddoniaeth dur newydd yn canolbwyntio’n benodol ar wella’r amgylchedd ac ynni. Yn y gwyddorau bywyd—elfen allweddol yn nyfodol yr economi leol—drwy’r fargen, cryfheir camau newydd i integreiddio gwaith ymchwil a darparu deorfa fusnes a threialon clinigol. Ac ar draws ardal gyfan y fargen, caiff y potensial ar gyfer cyflymu’r economi ei gydnabod fel rhywbeth sy’n ddibynnol nid yn unig ar seilwaith ffisegol, ond yn allweddol, ar ddatblygu cyfalaf dynol. Dyna pam, ym mhob rhan ddaearyddol o fargen ddinesig Abertawe, bydd sgiliau a datblygu talent yn rhan annatod o’r holl wahanol fuddsoddiadau a ddaw gyda’r fargen.
Mae’n bwysig cofio hefyd, Llywydd, na ddylai datblygiad bargeinion dinesig gael eu gweld yn unig fel cyfryngau ar gyfer cyflawni ac ariannu prosiectau. Bwriedir i fargen ddinesig Abertawe fod yn gatalydd o’r ymrwymiad y mae cymaint o unigolion a sefydliadau yn ei ddangos i ffyniant de-orllewin Cymru yn y dyfodol, er mwyn gwella’r hyder cyfunol y gall buddsoddiadau a sicrhawyd drwy’r fargen eu rhoi ar waith er budd y rhanbarth cyfan. Ac wrth gwrs, fel y Gweinidog sy’n gyfrifol am lywodraeth leol, mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn gweld sut y bydd y fargen ddinesig yn datgloi potensial rhanbarthol yr ardal. A chan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd gan fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, mae ein Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn cynnig mai yn ardaloedd y bargeinion dinesig y dylid lleoli’r cyfrifoldeb yn y dyfodol dros ddatblygu economaidd, trafnidiaeth ranbarthol—fel y pwysleisiodd Mike drwy ei gyfraniad—a chynlluniau defnydd tir. Os dowch â’r cyfrifoldebau hynny at ei gilydd a’u cyflawni ar sail ranbarthol, credwn y bydd hynny’n ategu’r fargen ac yn sicrhau ei bod yn cyflawni ei photensial llawn. I wneud hynny, mae gan y fargen gyfres o drefniadau llywodraethu y cytunwyd arnynt, ac ymrwymiad clir i gynllun gweithredu.
Mae’r trefniadau llywodraethu yn canolbwyntio ar gyd-gabinet. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn mai unigolion etholedig a ddylai fod yn atebol yn y pen draw am benderfyniadau a wneir. Ochr yn ochr â’r cyd-gabinet, bydd bwrdd strategaeth economaidd a gadeirir gan gynrychiolydd o’r diwydiant preifat lleol. Bydd yn monitro cynnydd ar gyflawni’r fargen ac yn rhoi cyngor strategol i’r cyd-bwyllgor ar y ffordd y mae’r fargen yn gweithredu ar lawr gwlad. Bydd y trefniant llywodraethu hwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithredu, monitro a gwerthuso wedi’i gytuno cyn gweithredu a fydd yn pennu’r dull arfaethedig o sicrhau ein bod yn gwybod y gallwn olrhain y buddsoddiadau a wnawn a’r effeithiau a gânt ar yr economi leol ac ar gymunedau lleol. Bydd tîm cyflawni’r fargen ddinesig yn darparu adroddiad chwarterol ar berfformiad i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Bydd cyd-bwyllgor craffu yn cael ei gynnull o blith aelodau’r pedwar awdurdod i ddarparu swyddogaeth graffu annibynnol ac yn y ffordd honno, bydd y rhan a chwaraeir gan boblogaethau lleol, fel y dywedodd Suzy Davies, yn cael ei chynnwys yn y ffordd y caiff y fargen ei strwythuro o’r cychwyn cyntaf.
Nawr, bydd unrhyw un sydd wedi bod yn rhan o fywyd cyhoeddus Cymru ar lefel awdurdod lleol neu ar lefel y Cynulliad yn gwybod bod gweithio ar y cyd yn creu heriau yn ogystal â chyfleoedd, ond yr hyn a welsom gyda bargen ddinesig bae Abertawe yw grŵp o awdurdodau lleol gyda chwaraewyr eraill o bwys yn barod i ddod at ei gilydd, yn barod i oresgyn yr heriau hynny, i ddod o hyd i ffyrdd newydd o herio ffyrdd traddodiadol o weithio, i ddod o hyd i amcanion a rennir, ac i wneud y cyfaddawdau sy’n anochel os ydych yn mynd i gytuno ar fuddsoddiadau hirdymor ac ymrwymo i fanteisio i’r eithaf ar y buddsoddiad sydd ar gael. Rydym ar fin gwireddu’r fargen newydd hon, gyda’r potensial sydd ganddi ar gyfer de-orllewin Cymru. Nawr, mater i bawb sydd wedi dod o amgylch y bwrdd mor llwyddiannus hyd yn hyn fydd parhau i ddangos y gallant droi’r cynlluniau addawol iawn yr ydym wedi gallu eu cefnogi yn weithredu go iawn ar lawr gwlad.