<p>Credyd Cynhwysol</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:23, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n falch iawn o glywed eich geiriau cryfion ynglŷn â pha mor ofnadwy, mewn gwirionedd, yw’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio’i wneud i bobl rhwng 18 a 21 oed, ac fel y gwyddoch, mae llawer o sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc yn gandryll ac yn ymgyrchu yn erbyn hyn. Croesawaf yr hyn a ddywedoch ynglŷn â siarad â’ch swyddogion, ond a wnewch chi, gan weithio ar draws y Llywodraeth, gyflwyno sylwadau mor rymus â phosibl i Lywodraeth y DU i ddweud wrthynt eu bod wedi gwneud camgymeriad yn hyn o beth, ac y bydd hyn yn arwain at ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, a gofyn iddynt ailfeddwl?