Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch yn fawr iawn, ac edrychaf ymlaen at weithio dan gudd a gweld faint a werthwn a faint y gallwn—. Wel, beth am gael cystadleuaeth? Cawn weld. Ond i ddychwelyd at y mater difrifol dan sylw, mae ffyrdd eraill, wrth gwrs, y gallwch chi a’ch Llywodraeth helpu i ddatrys y broblem benodol hon, yn hytrach na gwerthu ‘The Big Issue’. Mae gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i atal digartrefedd wedi gwella’r sefyllfa, ond nid yw wedi atal y cynnydd yn nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd. Yn eich barn chi, a yw’n bryd diweddaru eich strategaeth ddigartrefedd i gynnwys dull cenedlaethol o fynd i’r afael â chysgu ar y stryd, a dod â phobl oddi ar y stryd ac i mewn i lety, felly os oes pethau eraill—megis problemau iechyd meddwl—gellir mynd i’r afael â hwy, gallwn wneud yn siŵr o hynny, a gwneud yn siŵr nad oes tuedd gynyddol o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru?