<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:31, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym eisoes wedi dechrau ymgysylltu â chymunedau mewn perthynas â’n gweledigaeth ar gyfer y tymor hwy ar y ffordd o gael cymunedau cryf. Mae fy nhîm wedi bod yn siarad â holl glystyrau Cymunedau yn Gyntaf a’u rheolwyr tîm, a chydag awdurdodau lleol. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio gyda rhai sefydliadau ar barthau Rhoi Plant yn Gyntaf, ac rydym yn ystyried hynny er mwyn sicrhau ein bod yn cael adborth gan y gymuned, yn hytrach na’n uniongyrchol gan sefydliadau fel ni ein hunain. Felly, er bod y cynigion yn awgrymu 2018 o ran yr amserlen, mewn gwirionedd rydym wedi dechrau’r broses honno eisoes.