<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:33, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, byddwn yn gobeithio bod awdurdodau lleol yn gallu sicrhau ymyrraeth a chefnogaeth ar gyfer busnesau sy’n gallu dangos eu bod yn cael effaith gadarnhaol. Bûm yn ymweld â Sir y Fflint, sy’n gweithio gyda’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar raglen reoli achosion uwch, sy’n cael effaith enfawr ar leihau cyfraddau aildroseddu mewn ardal â nifer uchel o droseddwyr cyson. Rydym wedi cael cryn lwyddiant yno. Rwy’n siŵr y bydd fy nhîm wedi clywed eich cwestiwn, ac y byddant yn siarad â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn unol â hynny i weld a allant gyfarfod â sefydliad Eagle House, fel y dywedoch, rwy’n credu.