Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 5 Ebrill 2017.
Rydym yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU. Rwyf wedi cael sawl sgwrs, a sawl dadl, gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â’r mater hwn, ynglŷn ag egwyddorion cynllun o’r fath yng Nghymru. Nawr, rydym eisoes yn gweithredu cynllun gwirfoddoli, a sawl math arall o gefnogaeth, ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. A fy nghwestiwn i Weinidog y DU oedd sut y byddai hyn yn ychwanegu gwerth at ein cyfraniad eisoes. Beth fydd hynny’n ei ychwanegu? Roedd y Gweinidog yn gadarnhaol. Dywedodd y byddai’n ceisio mynd i’r afael â rhai o’r materion ariannol. Hyd yn hyn, nid yw wedi llwyddo i sicrhau unrhyw gyllid ychwanegol ar ein cyfer. Ond mae fy nhîm yn gohebu; gwelais nodyn yr wythnos hon yn sgil ymyriadau rhwng y ddwy adran.