Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch, Llywydd. Roeddwn am ofyn rhai cwestiynau i chi heddiw, Gweinidog, ynglŷn â thai, ac yn benodol, ynglŷn ag ymwneud Llywodraeth Cymru yn y broses o ysgogi’r cyflenwad tai. Gwn fod ymdrechion wedi’u gwneud i gynyddu’r defnydd o dir cyhoeddus ar gyfer y cyflenwad tai. A wnewch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r ymdrechion hyn, a hefyd ar weithgarwch tasglu’r cyflenwad tai, a sefydlwyd yn 2013?