<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:37, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, diolch am eich ateb, Gweinidog. Gwn fod gennych Fil ar y gweill i ddiogelu’r stoc dai cymdeithasol, fel rydych chi’n ei weld, a dyna yw eich dull o weithredu. Ond rwy’n edrych ar y pen arall heddiw—cynyddu’r cyflenwad gwirioneddol, ac rydych wedi fy ngoleuo ynglŷn â’r ymdrechion rydych yn eu gwneud. Nawr, man posibl arall lle y gellid gwella hyn yw drwy ryddhau safleoedd tir llwyd. A yw eich adran yn ymwneud â’r maes hwn, ac a oes unrhyw gynlluniau ar waith i helpu gyda’r broses o ryddhau safleoedd tir llwyd, megis llunio adroddiadau tocsicoleg?