<p>Adfywio yng Ngorllewin De Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:40, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am eich ateb. Mae’n amlwg fod stryd fawr Abertawe yn borth allweddol i’r ddinas ar gyfer ymwelwyr wrth iddynt ddod ar y trên a chyrraedd gorsaf stryd fawr Abertawe—mae’r cliw yn yr enw. Maent wedi elwa ar gyllid Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid dros y blynyddoedd diwethaf, ond nid yw pob adeilad ar y stryd fawr mewn cyflwr gwych. Mae Theatr y Palas yn adeilad rhestredig gradd II sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac yn dadfeilio. Mae pobl wedi bod yn aros ers blynyddoedd lawer am ryw arwydd o weithredu. A gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau rydych yn eu cymryd ar y cyd â Dinas a Sir Abertawe i geisio datrys y sefyllfa rwystredig hon?