Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 5 Ebrill 2017.
Wrth gwrs, mae ansawdd yr un mor bwysig â maint, ac rydym yn gwybod bod llithro ar ôl yn gynnar, yn arbennig o ran datblygiad gwybyddol, yn gallu effeithio ar blant am amser hir, yn enwedig yn ddiweddarach yn eu plentyndod, ac yn wir yn ddiweddarach mewn bywyd. Rwyf wedi pwyso arnoch o’r blaen ynglŷn â’r cynllun ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, ac fe ddywedoch y byddai ar gael yn y gwanwyn. Wel, dyma ni, ac roeddwn yn meddwl tybed a allech roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â phryd rydym yn debygol o’i weld, ac a yw ar fin cael ei gyhoeddi mewn gwirionedd?