<p>Hawliadau a Hawliau plant</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:58, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cytuno â’r Aelod. Mae rhan o fy nhîm a rhai aelodau o fecanweithiau cymorth y Llywodraeth wedi bod ar daith i’r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf i weld ymyriadau’n edrych ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gwn fod cyd-Aelodau eraill wedi bod ar draws y byd hefyd, yn edrych ar ymyriadau sy’n gadarnhaol iawn ar gyfer ein pobl ifanc. Ni ddylem gilio rhag mabwysiadu’r polisïau hynny. Mae’n drueni nad oes rhywbeth yn nes at gartref, yn Lloegr, a allai gael effeithiau cadarnhaol yma yng Nghymru.