<p>Cymunedau yn Gyntaf</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:59, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Fel bob amser, gan fod yr Aelod wedi dwyn y mater i fy sylw, yn ogystal â Dawn Bowden a’i gyd-Aelodau eraill, mae gennyf ddiddordeb mawr yn eich barn ar hyn a sut y gallwn sicrhau pontio llyfnach i’r bobl a gyflogir yn y cymunedau ar lawr gwlad. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwneud yn siŵr fod fy nhîm yn gweithio’n agos gyda Chaerffili a chymdeithasau eraill, ac rwyf wedi gofyn iddynt gael sgwrs gyda hwy yn uniongyrchol i wneud yn siŵr ein bod yn gallu dod o hyd i ffordd drwy’r cynnig hwn.