<p>Cymunedau yn Gyntaf</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:00, 5 Ebrill 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, nid yw’r rhain yn gynlluniau newydd. Nid oedd Esgyn a Cymunedau am Waith a’r rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth ar gael ym mhob un o’r clystyrau. Rydym yn gwneud yn siŵr y bydd Esgyn a Cymunedau am Waith ar gael ym mhob un o 52 clwstwr blaenorol Cymunedau yn Gyntaf, gan fuddsoddi £12 miliwn, fel y dywedodd yr Aelod, er mwyn mynd â phobl sy’n anodd iawn eu cyrraedd i mewn i’r farchnad waith. Nid yw hynny bob amser yn ymwneud â rhaglen gyflogadwyedd, ond efallai â meithrin hyder neu fel arall, â rhoi hyder i bobl symud at y cynllun hwnnw. Rwyf hefyd yn siarad â Julie James ynglŷn â’i llwybr cyflogadwyedd i wneud yn siŵr fod y rhaglenni penodol iawn hyn mewn cymunedau yn ychwanegu gwerth at ymyrraeth hirdymor dysgu gydol oes. Felly, rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion y cynlluniau hyn, ond nid ydynt yn newydd; nid ydym ond yn cynyddu’r gallu o fewn y sector.