4. 4. Cynnig i Ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â Chwestiynau Amserol

– Senedd Cymru am 3:05 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:05, 5 Ebrill 2017

Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12 mewn perthynas â chwestiynau amserol. Rydw i’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies.

Cynnig NDM6287 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12—Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2017.

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11 a 12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.