5. 5. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 5 Ebrill 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:16, 5 Ebrill 2017

Mae’n bwysig bod y Cynulliad yn parhau â’r gwaith da o daclo gwastraff, mater sy’n effeithio arnom ni i gyd. Mae arfordir, moroedd a thraethau Cymru yn gynefinoedd sy’n cael eu niweidio yn sylweddol gan wastraff, ac wrth gefnogi Simon Thomas heddiw rwyf am sôn am effaith gwastraff ar gynefinoedd morol, a sôn am effaith polystyren yn benodol.

Yn dilyn y dreth ar fagiau a gafodd ei chyflwyno yn 2011, cafwyd gostyngiad nodedig yn y nifer o fagiau plastig sy’n cael eu canfod ar draethau o gwmpas Cymru. Ond yn ôl arolwg traethau 2016, pan arolygwyd 28 o draethau yng Nghymru, roedd cynnydd o 16 y cant ers y flwyddyn flaenorol yn y nifer o eitemau gwastraff a ganfuwyd. Plastig a pholystyren ydy’r prif eitemau gwastraff a ganfuwyd ar draethau y Deyrnas Unedig ac, wrth gwrs, fel rydym wedi ei glywed, mae polystyren yn broblem amgylcheddol aruthrol oherwydd nad ydy o ddim yn ddeunydd sy’n dirywio efo amser, ac nid ydym yn gwybod faint o amser mae’n ei gymryd i bydru. Yn y cyfamser, mae safleoedd tirlenwi yn ogystal â’n moroedd ni yn llenwi efo fo. Mae polystyren yn waeth na phlastigion oherwydd mae yna dystiolaeth gynyddol bod cemegau ynddo fo sy’n gallu achosi canser, yn ogystal â’r ffaith ei fod hefyd yn niweidio a dinistrio bywyd gwyllt a bywyd môr.

Ddoe, fe ges i, digwydd bod, lythyr gan gynghorydd sir sy’n byw wrth ymyl ysgol yn Arfon, a dyma mae hi’n ei ddweud:

Yn ein ardal ni, gwelwn ddisgyblion ysgol yn ymweld â siopau bwyd amser cinio ac yn dympio’r boscys polysterene dros y cloddiau, yn y coed a glannau afonydd, ar diroedd gwyrdd, ar hyd llwybrau ac ar ochr y ffyrdd. Mae’n ofnadwy ac mae’n broblem sy’n gwaethygu. Yn sicr mae gwaith i’w wneud i addysgu plant i gael gwared o’u sbwriel mewn modd cyfrifol, ac wrth gwrs mae’n frwydr barhaus i sicrhau digon o finiau ac ati. Serch hynny, rwyf o’r farn y byddai’n help mawr i leihau deunydd pacio yn enwedig deunydd pacio bwyd.’

Mae hi’n mynd ymlaen, y cynghorydd sir yma, i ddweud:

Tybed a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi treth ar bolysterene? Mae’r dreth ar fagiau plastig wedi bod yn llwyddiant ysgubol: yn wir mor llwyddiannus fel bod gwledydd eraill y DG wedi mabwysiadu’r un polisi! Beth am i Gymru arwain y ffordd unwaith eto, a chreu Cymru sy’n rhydd o bolysterene? Diolch yn fawr am ddarllen fy llythyr a gobeithio bydd cyfle i chi siarad ar fy rhan a gofyn i’r Llywodraeth ystyried fy nghais.’

Yn amlwg, mae yna fwy o drafod i’w wneud: treth, lefi, gwahardd—pa un ydy’r dull gorau o gyrraedd y nod? Ond yn sicr, mi fyddai lleihau’r gwastraff pecynnu ar nwyddau yn gwneud llawer iawn i leihau’r gwastraff sy’n cael ei luchio, gyda chymaint ohono fo yn anochel yn diweddu ar ein traethau a’n moroedd, lle mae’n gallu cymryd blynyddoedd lawer i ddatgymalu. Felly, diolch am gael cyfrannu at y ddadl. Diolch i Simon am ddod â’r mater gerbron, ac ymlaen efo’r ymdrechion i daclo gwastraff.