Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 5 Ebrill 2017.
Rwy’n llongyfarch Simon ar gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol hwn, gyda’r nod o leihau gwastraff drwy osod gofynion ychwanegol ar gynhyrchwyr bwyd a manwerthwyr. Mae’n adeiladu ar y gwaith da a wnaed eisoes gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad hwn i fynd i’r afael â mater sy’n effeithio ar bob un ohonom, ac mae gan bawb ohonom gyfrifoldeb i fynd i’r afael, yn enwedig, â’r ynysoedd o wastraff sydd bellach yn tyfu yn ein cefnforoedd ac yn lladd bywyd morol.
Mae Cymru wedi bod ar flaen y gad yn y DU yn argymell ac yna’n gweithredu deddfwriaeth i gefnogi lleihau gwastraff, o’r strategaeth ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, sy’n anelu’n uchelgeisiol at fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, i’r Bil gwastraff, a gyflwynodd, fel y mae llawer o Aelodau eraill wedi dweud, y tâl am fagiau siopa untro, a dilynwyd yr esiampl honno gan Loegr bedair blynedd yn ddiweddarach. Mae’r tâl am fagiau siopa untro yn enghraifft o stori lwyddiant sydd wedi arwain at leihau gwastraff ar draethau yma yng Nghymru, gyda gostyngiad sylweddol yn nifer y bagiau siopa y daethpwyd o hyd iddynt—yn is nag unrhyw flwyddyn arall ers 2011. Ond wedi dweud hynny, mae gwastraff deunydd pacio yn dal i fod yn broblem yn ein moroedd ac ar ein glannau.
Fel eraill yma, rwyf wedi ymuno â phobl o bob oed i lanhau traethau, ac roedd canlyniadau o ddigwyddiad Glanhau Traethau Prydain 2016 y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn dangos, o’r 28 o draethau Cymru a arolygwyd ym mis Medi 2016, fod cyfartaledd o 607 darn o sbwriel wedi cael eu canfod bob 100 metr. Mae hynny’n dal i fod yn gynnydd o 16 y cant ers 2015. Ochr yn ochr â darnau plastig a pholystyren, deunydd pacio yw llawer o’r sbwriel ar ein traethau—deunydd pacio eitemau fel creision, brechdanau, losin, deunydd lapio lolis, a llawer iawn mwy. Nid yn unig y mae’n edrych yn hyll i drigolion a’r twristiaid sy’n ymweld â’n traethau gwych niferus, ond mae’n fygythiad i’n bywyd gwyllt morol ac i’n pysgodfeydd masnachol gan ei fod yn cymryd blynyddoedd i bydru.
Mae Cymru wedi gwneud cynnydd da ar leihau gwastraff, ond dylem bob amser fod yn fwy uchelgeisiol wrth edrych ar sut y gallwn leihau gwastraff. Mae’n werth rhoi ystyriaeth bellach i rai o gynigion Simon Thomas, a gefnogir gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol a llawer o rai eraill, a thrwy ymestyn cyfrifoldebau cynhyrchwyr gallem leihau faint o ddeunydd pacio a geir ar fwyd ac eitemau eraill, gan sicrhau cam sylweddol ymlaen o ran lleihau’r deunydd pacio sy’n cael ei daflu—gwastraff sydd, yn anochel, mewn un ffordd neu’r llall, yn cyrraedd ein traethau a’n moroedd. Felly, nid oes gennyf amheuaeth y bydd nifer o faterion ymarferol i’w datrys yn y cynnig. Mae David Melding wedi cyfeirio at rai ohonynt yn awr, ac mae Simon Thomas ei hun wedi cydnabod y byddai rhai anawsterau i’w datrys, ond nid ydynt yn anorchfygol mewn unrhyw ffordd. Felly, rwy’n cefnogi cynnig deddfwriaethol Simon mewn egwyddor heddiw, ac mewn ysbryd, ac rwy’n siŵr y gallwn gael y manylion yn gywir hefyd pe bai hwn yn cael ei gyflwyno, ac rwy’n annog yr Aelodau eraill i ystyried gwneud hynny hefyd.