Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Simon Thomas, ac i bawb, am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae’r ddadl wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru roi’r newyddion diweddaraf—yn wir, mae’r newyddion diweddaraf wedi cael ei fwydo’n ôl a’i fynegi gan yr Aelodau heddiw. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig atgoffa ein hunain a chofnodi ein bod wedi cyhoeddi ein strategaeth wastraff ar gyfer Cymru, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, yn ôl yn 2010, yn amlinellu’r camau y mae’n rhaid i bawb ohonom eu cymryd os ydym am gyrraedd ein huchelgais o fod yn genedl sy’n ailgylchu’n dda erbyn 2025 ac yn genedl ddiwastraff erbyn 2050. Mae ein strategaeth yn llwybr tuag at economi gylchol fel y’i gelwir, ac mae pob Aelod wedi gwneud sylwadau arni heddiw. Mae’r economi gylchol honno’n un lle rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau cyn hired ag y bo modd, yn cael y gwerth mwyaf posibl ohonynt tra’u bod yn cael eu defnyddio, ac yna’n adfer ac adfywio cynhyrchion a deunyddiau ar ddiwedd oes eu gwasanaeth. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei rhaglen atal gwastraff ym mis Rhagfyr 2013. Mae’r rhaglen atal gwastraff yn cefnogi ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ drwy ddisgrifio’r canlyniadau, y polisïau, y targedau a’r rhaglen waith ar gyfer mynd ati i atal gwastraff yng Nghymru.
Mae mynd i’r afael â gwastraff yn stori lwyddiant fawr i Gymru, ac yn un y dylai pawb ohonom fod yn falch ohoni. Gennym ni y mae’r cyfraddau ailgylchu trefol uchaf yn y DU ac yn ôl astudiaeth annibynnol, y cyfraddau uchaf ond un yn Ewrop, a’r uchaf ond dau yn y byd. Nawr, yn 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hamcan i fod yn arweinydd byd mewn ailgylchu trefol. Mae manteision economaidd cyffredinol ein strategaeth wastraff i economi Cymru yn enfawr. Er enghraifft, mae ymchwil a wnaed gan Sefydliad Ellen MacArthur yn rhagweld manteision o dros £2 biliwn bob blwyddyn i Gymru o gyflawni economi gylchol.
O ran deunydd pacio bwyd a diod, mae’n bwysig bod yn glir mai un o brif ddibenion deunydd pacio yw diogelu’r cynnyrch rhag difrod a gwastraff, gan gynnwys ymestyn ei oes silff. Mae ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’ yn cael ei werthuso ar hyn o bryd a bydd yn cael ei adnewyddu i gynyddu cyfleoedd ar gyfer y sector preifat a’r sector cyhoeddus i uchafu manteision ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol o ganlyniad i fabwysiadu newidiadau mewn arferion o dan faner yr economi gylchol a defnyddio adnoddau’n effeithlon. Byddwn yn ymgynghori ar y diwygiadau i’r strategaeth wastraff mewn ymgynghoriad ffurfiol yn 2018. Yn rhan o’r broses ymgynghori, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu’n drylwyr â chynhyrchwyr bwyd, manwerthwyr a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas ag ymestyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr eu bod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb ariannol am gasglu a rheoli gwastraff sy’n deillio o’r cynnyrch a’r deunydd pacio.
Yn ddiweddar mae cryn ddiddordeb wedi bod yn dilyn y sylw yn y cyfryngau i sbwriel, ailgylchu poteli plastig ac ailgylchu cwpanau coffi. Mae gan Lywodraeth Cymru raglen waith ar gyfer mynd i’r afael â’r materion hyn yn benodol. Er enghraifft, ers nifer o flynyddoedd mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau, WRAP, i weithio gyda’r diwydiant bwyd a siopau bwyd i leihau deunydd pacio diangen. Mae WRAP Cymru hefyd wedi gweithio gyda’r diwydiant gwasanaeth bwyd i atal deunydd pacio gwastraffus a chynyddu ailgylchu.
Rydym ar fin comisiynu astudiaeth i ymchwilio i opsiynau’n ymwneud â chanlyniadau sy’n gysylltiedig â defnyddio adnoddau’n effeithiol, gan gynnwys atal gwastraff, ailddefnyddio ac ailgylchu, a lleihau sbwriel drwy ddull o ymestyn cyfrifoldeb y cynhyrchydd. Fel rhan o’r astudiaeth hon, byddwn yn ystyried sut y gallai cynllun dychwelyd blaendal effeithio ar gynlluniau presennol awdurdodau lleol ar gyfer casglu a rheoli’r gwastraff rydym yn ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni hefyd ystyried yr effaith gysylltiedig ar bobl Cymru yn amgylcheddol, ariannol, cymdeithasol, diwylliannol ac o ran llesiant wrth wneud ein penderfyniadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddwn yn archwilio’r gwaith ymchwil hwn wrth adolygu a diweddaru ein strategaeth wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’.
Mae Simon Thomas, wrth gyflwyno’r ddadl hon heddiw, a’r Aelodau, wedi siarad yn rymus am effeithiau niweidiol gwastraff, yn enwedig ar yr amgylchedd morol, ond hefyd am y cyfleoedd sydd i Gymru barhau i arwain gyda’i pholisi a’i strategaeth wastraff. Wrth ystyried y cynnig deddfwriaethol hwn, fel rwyf eisoes wedi dweud, mae gennym strategaeth wastraff a rhaglen atal gwastraff ar waith yng Nghymru, ond rydym hefyd yn ymrwymedig i gyflwyno dulliau o fynd i’r afael â gwastraff deunydd pacio. Byddai angen i unrhyw Fil a fyddai’n cael ei gyflwyno yn awr gael ei asesu o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad o dan ddarpariaethau Deddf Cymru 2017. Mae deddfwriaeth ynglŷn â chynhyrchion yn faes cymhleth, a hyd nes y byddwn yn gwybod yn union beth allai gael ei gynnig o dan y Bil arfaethedig, ni allwn fod yn sicr a yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol ai peidio. Oherwydd hynny, bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig hwn, ond rydym yn cymeradwyo bwriadau’r canlyniadau y mae’r cynnig am Fil yn ceisio mynd i’r afael â hwy mewn perthynas â chynhyrchu gwastraff, gan eu bod yn cyd-fynd â’r camau rydym wedi eu rhoi ar waith drwy ein strategaeth wastraff, ‘Tuag at Ddyfodol Diwastraff’, ac yn ein llwybr tuag at sicrhau economi fwy cylchol yng Nghymru.