Part of the debate – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 5 Ebrill 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi gwrando ar yr ystod enfawr o heriau y mae’r Aelodau wedi’u cyflwyno yn y ddadl heddiw, ond rwy’n falch o ddweud eu bod wedi eu cyflwyno gyda theimlad o optimistiaeth, ac ymateb Dai Lloyd a grisialodd hyn orau, pan gydnabu nid yn unig y gellir goresgyn yr heriau hyn, ond gallant fod o fudd mewn gwirionedd i’n system lywodraethol yng Nghymru. Yn wir, os na allwn ddarparu gweledigaeth optimistaidd o’r dyfodol, yna ni ddylem fod yn eistedd yn y Siambr hon yn y lle cyntaf.
Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, siaradais ag optimydd arall rwy’n ei adnabod, sef yr Athro Tom Crick, athro gwyddoniaeth gyfrifiadurol a pholisi cyhoeddus ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd—a dylwn ddatgan buddiant fel darlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Dywedodd wrthyf, ac yn wir fe ddywedodd ar Radio Wales y bore yma, fod angen inni gael swyddi gwerth uchel i bobl yn hytrach na’u bod yn gorfod symud i rywle arall. Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen ymrwymiad cydlynol, hirdymor gan Lywodraeth Cymru i’r Gymru ddigidol, o sgiliau i seilwaith a’r ecosystem ddigidol ehangach. Aeth ymlaen i ddweud bod cyfle pwysig i Gymru yma: beth fydd ein pwynt gwerthu unigryw yng Nghymru fel y gallwn gystadlu yn y diwydiannau digidol gwerth uchel hyn, a’u harwain yn y pen draw? Mae Tom, yr Athro Crick, yn llais i’w groesawu, ac fe gafodd ei groesawu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n braf clywed bod Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi ei fod yn gwrando ar baneli o arbenigwyr o’r byd academaidd a diwydiant i ddatblygu ei strategaeth ddiwydiannol, ac edrychwn ymlaen at glywed beth fydd honno.
Dylai’r pwynt gwerthu unigryw a grybwyllodd yr Athro Crick fod yn allweddol i’r strategaeth arloesi ar ei newydd wedd, ac yn wir, dylem feddwl hyd yn oed beth a olygwn wrth ‘strategol’ a ‘strategaeth’. A yw’n mynd i fod yn rhywbeth a argraffwn a’i roi ar silff a’i roi ar y wefan, neu a yw’n rhywbeth sy’n mynd i newid ac adnewyddu’n gyson? Dyma a wnaeth Lee Waters wrth iddo gyflwyno ei her, fel y mae bob amser yn ei wneud, i Lywodraeth Cymru a dweud bod angen i ni newid strategaeth ‘Arloesi Cymru’ yng nghyd-destun y trawsnewid yr ydym yn byw drwyddo. Rwy’n falch o weld bod yr her honno yn cael ei chroesawu gan Ysgrifennydd y Cabinet.
Rydym yn symud tuag at y dyfodol yn dwyllodrus o gyflym. Nid ydym yn cydnabod newid trawsnewidiol yn ein bywydau bob dydd, ond wedyn fe edrychwn yn ôl, a gweld bod y byd wedi newid wrth i ni wneud pethau eraill. Rwy’n meddwl am y cyfnod pan oeddwn yn dysgu. Byddwn yn gofyn i fy myfyrwyr faint ohonynt a oedd yn berchen ar ffôn symudol Nokia, ‘Codwch eich dwylo. Pwy sy’n berchen ar ffôn symudol Nokia?’ Nid oedd yr un ohonynt. Mewn gwirionedd, cododd un ei law, ac fe wnaethom chwerthin am ben yr unigolyn hwnnw. [Chwerthin.] Ond wedyn, rydych yn dweud, ‘Iawn. Wel, faint ohonoch a oedd yn berchen ar ffôn symudol Nokia yn y gorffennol?’ A chododd pawb eu dwylo; roeddent wedi bod yn berchen ar ffôn symudol Nokia. A allem fod, cyn bo hir, yn edrych yn ôl ac yn chwerthin am ben ein hunain am ein bod wedi bod yn berchen ar ffonau clyfar ac na allem roi ein ffonau clyfar i lawr? Beth fydd y dyfodol yn lle hynny?
Wel, y gamp yw canfod beth fydd hynny. Nid wyf yn arbennig o dda am ddarogan y dyfodol yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg, felly mae’n dda fod Dai Lloyd, Rhianon Passmore a Vikki Howells wedi nodi’r potensial sydd gennym yng Nghymru. Soniodd Vikki Howells am ein hadnoddau naturiol i ddarparu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu ynni. Roedd hi’n cydnabod yr angen am gadwyni cyflenwi byr, hyblyg yn ein Cymoedd gogleddol—rwy’n hoff o’r cysyniad hwnnw; fe’i defnyddiaf—a’r angen i dyfu a datblygu sgiliau priodol sy’n cyfateb i’r anghenion a’r newidiadau sydd o’n blaenau, ac unwaith eto, adleisiwyd hynny gan Aelodau eraill yn y Siambr.
Gadewch i ni beidio ag anghofio nad yw’n ymwneud yn unig â’r pedwerydd chwyldro diwydiannol, nid yw’n ymwneud yn unig ag ailddyfeisio fel dyfeisio. Mae llawer ohono’n ymwneud â gweithio gyda, ac adeiladu ar yr hyn sydd gennym yn barod. Bydd datblygiadau technolegol mewn prosesau gweithgynhyrchu, fel y dywedodd David Rowlands, yn golygu bod peiriannau’n gallu gweithgynhyrchu ac ailweithgynhyrchu, gan ddileu’r angen am adnewyddu ac ailosod drud.
Ond gall y buddion hynny arwain, fel y mae eraill wedi dweud, at newidiadau megis llai o staff desg dalu yn ein harchfarchnadoedd lleol, a changhennau banc yn cau am fod pobl yn bancio ar-lein. Rydym yn falch iawn o Admiral Insurance yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe, ond a allai gael ei daro’n galed gan ddeallusrwydd artiffisial? Mynegais fy mhryderon ynglŷn â chau canghennau banc mewn cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe, ac roeddwn yn falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod yr anawsterau hynny. Fodd bynnag, rydych yn teimlo weithiau—nid oherwydd y Llywodraeth, ond rydych yn teimlo’n analluog i rwystro’r newidiadau hyn pan ddigwyddant, a’r hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yn lle hynny yw eu rheoli, a rheoli ein ffordd drwyddynt, a manteisio arnynt yn optimistaidd. Roedd cyfraniad Jeremy Miles yn cynnwys hynny. Soniodd am holl natur byd gwaith, sut rydym yn gweithio a beth yw ystyr gwaith inni hyd yn oed. Er ei fod braidd yn ddrygionus ac wedi gadael, roedd David Melding yn cytuno â—[Aelodau’r Cynulliad: ‘O’.]